18.7.10

pethau gwaith-coedaidd...

Ges i gwpl o lyfrau bach ail law'r wythnos yma, un a glywais amdano trwy sgwrs 'twitter' digwydd bod!

Gafodd 'Termau Gwaith Coed' ei gyhoeddi yn 1966, ar ran ysgolion cyfrwng Cymraeg mae'n debyg.  Geiriadur bach ydy o mewn gwirionedd llawn y fath o eiriau fasai rhywun yn defnyddio tra drin coed, a nifer ni allwn i byth yn dychmygu defnyddio yn y maes arbennig hwn 'chwaith - requisition?!

Ta waeth, cracr o lyfr ydy o, ac un fydda i'n cadw yn y gweithdy a defnyddio wrth i mi fynd o gwmpas fy ngwaith pob dydd.
Yfory, er enghraifft mi fydda i'n torri 'uniadau cynffonog', yn hytrach na 'dovetail joints', ac yn defnyddio fy 'llif dyno, gordd a chy^n'.   Fydda i'n ceisio peidio anadlu ormod o lwch llif wrth dorri'r derw hefyd!

Y llyfr bach arall (ond nid cweit mor fach), yw un a gafodd ei gyhoeddi gan Gwasg Prifysgol Cymru yn 1991 (dwn i ddim os mae o dal mewn print) am hanes y ddresel Cymreig.   Fel saer dodrefn, dyma lyfr llawn gwybodaeth diddorol iawn. Mae'r ddresel yn cael ei ddilyn o'i wreiddiau, hynny yw'r cypyrddau deuddarn a thridarn.  Ond dylanwad dodrefnyn o'r cyfandir oedd y ffurf a fasen ni'n adnabod fel dresel Cymreig, steil a ddaeth draw i ynysoedd Prydain ar ól ailsefydlu'r brenhiniaeth Lloegr ym 1660.  Mae'r enw 'dresser' (a newidiodd i 'ddresel' mewn rhannau o Gymru, er defnyddwyd 'dreser' neu 'seld' mewn rhannau eraill) yn dod o'r Ffrangeg 'dressier', ac yn adlewyrchu diben y ddarn, sef 'dress' neu drin bwydydd cyn iddynt cyrraedd y bwrdd.  Llyfr llawn lluniau o hen ddreseli, sawl ohonynt o San Ffagan. 

2 comments:

Emma Reese said...

Sôn am ddodrefn, wyt ti wedi clywed hanes Brenhinbren y Ganllwyd? Cafodd bwrdd ei wneud o'r derwen yno yn y 18ed ganrif; mae o yn Sain Ffagan bellach, dw i'n credu. Pasiais i'r Ganllwyd ar fy ffordd i'r Bala o Gaernarfon. Roedd yr ardal yn llawn o goed godidog.

neil wyn said...

Diolch am hynny Junko. Clywais i erioed am hanes y dderwen yno, er mae enw'r pentref yn taro gloch. Ffindiais i wefan am y pentre lle mae 'na son am y coeden enwog a'r dodrefnyn arbennig yno.

http://www.rhufain.com/ganllwyd/index.html