4.7.10

Ynys Món...


Mae'n ychydig o flynyddoedd ers o'n i ar Ynys Món, ond aethon ni ddoe am ginio ym Mhiwmaris efo'r teulu er mwyn dathlu penblwydd fy Mam.  Roeddent yn aros ar yr Ynys am ychydig o ddyddiau mewn gwesty o'r enw Neuadd Lwyd nid yn bell o Bennmynydd.   Am leoliad!   Mae'r Neuadd (hen reithordy) yn edrych yn hyfryd iawn, gyda golygfeydd godidog tuag at y tir mawr ac Eryri o lawnt y ffrynt.

Mi aethon ni i fwyty 'eidalaidd' ym Mhiwmaris 'DaPizza' (neu rhywbeth felly) lle gaethon ni pryd o fwyd blasus iawn.  Ro'n i wedi anghofio pa mor hyfryd oedd y dref castellaidd, a ches i fy synnu i glywed bach o Gymraeg ymhlith holl fwrlwm strydoedd un o leoliadau drytach y Gogledd!

Ar ól dro ar y prom ac i lawr y pier, wnaethon ni dod o hyd i gaffi am baned sydyn, cyn cael ein arwain lawr lonydd culion at Neuadd Lwyd, lle roedd aelodau eraill o'r teulu wedi cyrraedd.

Diwrnod braf, ar wahan i'r tagfa erchyll ar y ffordd allan ger Llanelwy.  

2 comments:

Emma Reese said...

Penblwydd hapus i dy fam felly!

Corndolly said...

Dw i'n hoff iawn o Ynys Môn, ond heb gael y cyfle i fynd yn ôl am dipyn. Ydy perchennog y gwesty yn siarad Cymraeg - rhag ofn i mi gael y cyfle i fynd yn y dyfodol.