24.8.10

Diwrnod tu gefn i'r tywysoges...

Gaethon ni ddiwrnod ardderchog ar fwrdd y North Wales Coast Express dydd Sul, ecscyrsion arbennig o Lerpwl i Gaergybi ac yn ól.  Ymunom ninnau á'r trén yn Frodsham, gan bod ffrind fy merch yn dod á ni, ac roedd hi'n aros efo ei nain nid yn bell o fan'na.   A dweud y gwir gyda'r tren yn cymryd tua awr a hanner i grwydro o Lerpwl i Frodsham wrth stopio i godi teithwyr o nifer o lefydd ar hyd y ffordd, mi fasa'r trip i Gaergybi wedi cymryd oesoedd! 
Gaethon ni banic sydyn wrth weld ffrydiau o stém yn saethu mewn i'r awyr wrth i ni gyrraedd y maes parcio, ond sylweddolais mai stop dyfrio oedd Frodsham, ac roedd gorffwys o chwater awr wedi ei neilltuo yn yr amserlen i  lenwi'r injan, ac yn bwysicaf er mwyn gadael i bobl cael siawns camu ar y 'footplate' a chael rhywun tynnu eu lluniau yn fan'na.



Ar ól i ni lwyddo i ffindio ein bwrdd ni, dyna ni'n dechrau ar y darn cyntaf o'r taith, sef y ddeuddeg milltir i Gaer a'n profiad cyntaf o deithio tu gefn i'r Tywysoges Elizabeth.  Doeddwn ni ddim yn disgwyl i'r hen leidi mynd cweit mor gyflym a dweud y gwir, ond o fewn dim roedden ni wedi cyrraedd Cymru ac roedden ni'n tarannu trwy'r Fflint, Prestatyn a'r Rhyl (peth da!) tuag at y stop nesaf ym Mae Colwyn.  Yn ól y llyfryn a roddwyd i bawb gan drefnwyr y taith, 75mya yw cyflymder uchaf yr injan erbyn heddiw (er mi aeth hi lot gyflymach yn ei hanterth), ond teimlodd yn andros o gyflym yng ngherbydau o'r 1960au.   Ro'n i wedi anghofio pa mor braf yw teithio lawr yr arfordir ar y tren, wedi hen arfer á'r siwrne ar yr A55.
Mi wnaethon ni pigo lawr i Landudno hefyd (lle gadawodd nifer o'n cyd-deithwyr)  gyda injan diesel yn gwneud y gwaith o'n tynnu ni'n ól i'r jyncsion.   Ar ól gorffwys arall a mwy o ddwr i'r injan dechreuom ni ar y darn harddach o'r taith o bosib, tuag at Fangor a'r Pont Britannia wrth cwrs.   Gaeth y Tywysoges cyfle arall i 'ymestyn ei choesau'  ar y llinell syth dros Ynys Món, cyn arafu i groesi i Ynys Gybi a gorsaf y porthladd.



Mwynheuom ni groesi'r bont newydd i'r dre, cyn crwydro lawr at y 'traeth' a chael paned yn y caffi bach yn ymyl yr Amgueddfa Morwrol.

Clywais dim ond un berson yn siarad Cymraeg yng Nghaergybi, sef dyn ifanc oedd yn siarad á phlentyn bach.  Stopiais i'w holi (yng Nghymraeg) am gyfeiraidau i'r prom,  a ges i "Sorry I don't live round here" yn ól!  Ffarweliais á fo gyda "sdim ots, diolch yn fawr"!

Mi aeth y dwy awr a hanner yn gyflym iawn, a chyn pen dim roedden ni'n ól yn yr orsaf ac ar fwrdd y trén.  Gaethon ni siawns i gyfnewid straeon gyda'r pobl ar y bwrdd nesaf ar ól iddynt ail ymuno á'r trén yn Llandudno, ac aeth y taith yn ól yr un mor hwylus á'r un allan, gyda golygfeydd gwych i'w mwynhau pob cam o'r ffordd bron.   Un o'r pethau brafiach i mi, ( a rhywbeth wnaeth y genod mwynhau) oedd y siawns i sefyll wrth y drysau, tynnu'r ffenest i lawr a theimlo'r gwynt (o'n i'n mynd i ddweud yn fy ngwallt, ond does gen i fawr y dyddiau 'ma!), rhywbeth na chei di wneud yn aml ar drennau cyfoes.  



Diwrnod tu gefn i'r tywysoges.. diwrnod i'r brennin! 

1 comment:

Emma Reese said...

Falch o glywed fod ti wedi cael diwrnod braf. Ar y trên dw i'n mynd o faes awyr Manceinion i Fangor fel arfer, ond dw i heb groesu Pont Britania eto. Bydd rhaid i mi wnerud hynny rywdro (er ar y trên cyffredin baswn i, dw i'n siŵr.)