1.8.10

Taith i Lerpwl...

Pier Head Lerpwl o fynediad y Doc Albert
(Yr amgueddfa yw'r adeilad onglog i'r chwith i gloc yr adeilad Liver)

Mi aethon ni draw i Lerpwl p'nawn ddoe, yn rhanol er mwyn, chwilio am sofa newydd, ond hefyd i ffeindio rhywle i gael te.   Roedd canolfan siopa Lerpwl One yn fwrlwm o siopwyr yn ogystal ag ambell i griw yn dathlu parti iár, ac roedd y rhan mwyaf o'r bwytai'n llawn dop, gyda tagfeydd yn ymestyn o ddrws ambell i un.  Mi benderfynom maes o law cael blas ar fwydydd 'cadwyn bar nwdl' Wagamama, a chawsom ein plesio gan y gweinu ardderchog, a'r bwyd blasus.   Yr unig peth nad oedden ni'n cyfarwydd gyda fo, oedd y ffaith mi ddaeth ein cyrsiau ar brydiau gwahanol.  Gaethon ni ein rhybuddio am hyn wrth archebu i fod yn deg, ac roedden ni'n bwriadu rhanu'r bwydydd beth bynnag felly doedd dim ots.

Ar ól gorffen mi aethon ni am dro lawr i'r Pier Head a'r Doc Albert, i weld sut mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen ar adeilad newydd Amgueddfa Lerpwl.  Ni fydd yr Amgueddfa ar agor tan 2011, ond mae'r adeilad bron wedi ei gorffen yn ól ei golwg, felly edrychaf ymlaen at ymweled á hi y flwyddyn nesa.
Mae glannau'r afon yn Lerpwl wedi eu trawsnewid yn llwyr dros y flynyddoedd diwetha, ac maen nhw wir gwerth eu gweld, yn enwedig ar noson braf yr haf!

3 comments:

Corndolly said...

Brynaist ti'r soffa yn y diwedd neu esgus da oedd o i fynd allan am fwyd?

Emma Reese said...

Do'n i ddim yn gwybod bod na gynifer o dai bwyta o'r enw Wagamana (sy'n golygu hunanol.) Ces i gip ar y fwydlen; mae'n swnio'n dda.

Anonymous said...

I would like to exchange links with your site cleciaucilgwri.blogspot.com
Is this possible?