12.8.10

Newidiadau enfawr yn agoshau yng Nghilgwri...?

Mae'r cynllun mwyaf erioed a roddwyd o flaen pwyllgor cynllunio ym Mhrydain newydd ei basio.
Son ydwi am 'Wirral Waters' y datblygiad anferth mae 'Peel Holdings' (perchnogion presennol yr hen 'Mersey Docks and Harbour Board', a datblygwyr Salford Quays) eisiau gwireddu yn ardal dociau Penbedw a Wallasey.


un o nodweddion y dociau sy'n rhan o'r cynlluniau

Mae'r cynllun yn ei gyfanrwydd yn debyg o gymryd o leiaf 30 o flynyddoedd i gwblhau, sy'n cynnig rheswm i fod yn amheus iawn am y lluniau cyfrifiadurol sydd i'w gweld ar eu gwefan lliwgar. Ond gyda'r caniatad cynllunio newydd ei basio, mae'n rhaid cymryd y peth o ddifri, gan fod lot o bobl wedi buddsoddi llawer o arian i gyrraedd y pwynt hyn. Wrth rheswm mi fydd rhaid i'r cyngor derbyn caniatad gan y llywodraeth am gynllun mor fawr (£4.5 biliwn erbyn hyn), ond gyda swyddi'n andros o brin yn yr ardal (un ddifreintiedig tu hwnt), mi fydd yr addewid o hyd at 20,000 o swyddi newydd (yn ystod y cyfnod o waith adeiladu am wn i) yn ddadl cryf yn ei blaid.


Lerpwl o ddociau Cilgwri

Dwi ddim yn sicr be dwi'n meddwl amdano fo a dweud y gwir. Dwi'n cofio'r dociau'n fwrlwm o weithgareddau (er ar eu lawr oeddent adeg hynny mae'n siwr), a hyd yn oed 'shunters' stem yn rhannu'r pontydd siglo a cheir Yn sicr mae 'na rannau helaeth o'r dociau sy'n dawel iawn y dyddiau 'ma, ac mae'n rhaid wneud rhywbeth gyda nhw. Ar y llaw arall mae 'na longiau yn dod trwyddyn nhw o hyd, ac mae 'na awyrgylch arbennig o'u hamgylch, rhywbeth a gollir yng nghynlluniau 'Peel Holdings'.


Mi fydd 'na lot o drafodaethau mae'n siwr cyn i'r dyddiad dechrau presennol (rhywbryd yn 2012), felly mi fydd hi'n cyfnod diddorol iawn yng Nghilgwri....

2 comments:

Golwg360.com said...

Helo na!
Mae Golwg360.com gyda blog ar ei gwefan erbyn hyn ac rydym wedi gosod linc i’ch blog chi. A fyddech chi mor garedig i weithredu'r un gymwynas yn ôl? Mae’r wefan ei hun yn derbyn dros 70,000 o hits yr wythnos ac yn cyhoeddi rhwng 30 a 40 o straeon yn ddyddiol. Rydym yn diweddaru ein blog yn ddyddiol trwy roi sylw i wleidyddiaeth, materion cyfoes, chwaraeon, canlyniadau eisteddfodau, clipiau fideos, cartwns, digwyddiadau amrywiol ayyb.
Yn wir rydym yn annog pobl i gyfrannu tuag at ein blog, felly os ydych am ddweud eich dweud dyma’ch cyfle!
Yn ogystal â hyn fe fydd Golwg360.com yn edrych i roi sylw i flogs eraill yn y dyfodol trwy sgwennu pwt a chynnig linc i’r blog penodol.
Byddem yn ddiolchgar iawn petawn yn medru cydweithio yn y modd yma.

Cofion cynnes,

Golwg360.com

neil wyn said...

wna i'n siwr!