21.9.10

Llyfr Coginio a Chadw Ty...

Derbyniais gopi o'r llyfr hynaf i mi ei brynu heddiw, cyfrol o'r enw 'Llyfr Coginio a Chadw Ty', llyfr a argraffwyd gan 'Hughes a'i Fab' o Wrecsam yn 1880.   Yn ól y clawr, ysgrifennwyd y llyfr gan 'awdwr' 'Llyfr Pawb ar Bob-peth', sef y llyfr sy'n sail i gyfres S4C 'Byw yn ol y Llyfr', gyda Tudur Morgan a Bethan Gwanas.   Rhaid cyfadde mod i heb gweld y cyfres yna eto, er dyna'r rheswm pam es i ar ól dod o hyd i gopi o'r llyfr.  Ffindiais gopi ar e-bay, ond cwpl o ddyddiau'n rhy hwyr yn anffodus, ond cynigodd y gwerthwr copi o'r llyfr yma i mi, sy'n eitha debyg ond efo mwy o reseitiau a ballu, yn hytrach na rheolau ar sut i rhedeg ty delfrydol yn ail hanner y 19C.

Mae 'na bennod 'Rheolau a Chyngorion Teuluoedd' yn cynnwys cyngor ar ddillad priodol, sut i ddinistrio 'bugs' (reseit sy'n cynnwys arsenic!), ac un i 'Dyfu gwallt' (olew olewydd, spirit of rosemary, olew nutmeg) trwy rwbio fo ar dy ben pob nos cyn gwely!  Ond llyfr reseitiau ydy o yn y bon.

Mae 'na ganoedd o reseitiau, sy'n rhoi argraff o'r math o bywydydd a goginiodd yn y cyfnod, ac mae gan rai ohonynt amcangyfrif o'r cost o gynhyrchu'r pryd hefyd.  Rhaid dweud does gen i awydd i flasu sawl ohonynt, pen llo i'w ferwi gyda 'sauce egg' er enghraifft!

Un peth wnaeth fy synnu braidd oedd  gweld cymaint o Saesneg ynddo.  Dyma lyfr gwbl Cymraeg, ond wrth ymyl misoedd y flwyddyn mae 'na gyfieithiadau Saesneg!  Mae 'na lot fawr o enwau Saesneg am fwydydd hefyd (falle nid cymaint o syndod), kidney, mushroom, beans, carrots, sausages, salmon, cod... 'lamb' hyd yn oed, ond dim son am 'gig oen'!  Falle mae hynny'n rhoi argraff o agwedd gwahanol at yr iaith yn y cyfnod yna.  Roedd yr iaith yn modd o gyfathrebu yn unig i sawl efallai, beth oedd yr ots am fenthyg termau Saesneg i'w gyfoethogi? a'r rheiny heb eu cymraegeiddio chwaith, am selsigen Sausage, nid sosej!

No comments: