Traeth Towyn, Tudweiliog |
O'r hyn dwi'n cofio gefais fy nghyflwyno i Draeth Towyn gan fy nwraig dros chwater canrif yn ól. Dwi ddim yn cofio mynd efo fy rhieni fel plentyn (er mi aethon ni i bron pob cwr o Gymru fach!), ond roedd teulu fy ngwraig yn hoff iawn o'r llecyn bach hyfryd o amgylch Tudweiliog, ac yn aros yna pob haf mewn amrywiaeth o fythynod 'sylfaenol' ond cartrefol. Roedd traethau gogledd Pen Lly^n yn canolbwynt i'w gwyliau nhw - ac yn enwedig Traeth Towyn, un gymharol anghysbell i sawl, ond yn weddol hawdd i'w gyrraedd er hynny.
Pan gyrraeddon ni'r traeth dydd sul, roedd hi'n braf ond yn chwythu'n gryf. Mi brofion ni lli go lew, a chanlyniad yr heulwen ar ein cyrff, a chuddwyd rhywfaint gan effaith oeri'r gwynt. Mi aeth Jill yn y dwr bron yn syth - er mewn wet suit - a rhaid cyfadde wnes i ddim a y ddiwrnod hwnnw, er fentrais mewn nifer o weithiau dros y dyddiau nesaf. Fel y soniais yn y post diwetha, mae'n braf cael siop bach ger y traeth yma - ac un lle gei di ymarfer dy Gymraeg hefyd! - ond diolch byth nad ydy'r lle wedi cael ei dinistrio gan or-ddatblygu, ac mae'r mae's carafannau parhaol yn un fach mewn lliwiau 'naturiol'. A dweud y gwir does fawr o newid i'w gweld ers y tro gyntaf i mi ymweled á'r lle, ac mae'n un o'r traethau hyfrytach dwi'n ei nabod yng y Gogledd o hyd - er eleni roedden ni i ddarganfod y traeth harddaf i ni ymweled ag ef o bosib, ychydig o filtiroedd lawr yr arfordir...
No comments:
Post a Comment