15.4.11

Meddyliau nos wener....

Dwi credu bod y sylwebydd AA Gill sy'n cyfrifol am ddweud rhywbeth fel 'Y Gymraeg yw'r unig iaith all rhywun ei dysgu er mwyn siarad a llai o bobl'. Ar y wyneb sylw eitha doniol yw hyn, ond mae Gill yn mynd yn ei flaen i ddweud  "There isn’t a single human being you can talk to in Welsh you couldn’t have spoken to before in English. You can say just the same things, but it’s uglier, clumsier" sy'n fwy nodweddiadol efallai o'r hyn mai rhywun yn ei disgwyl ganddo.  Mae AA Gill (tybed oes gynno fo enw cyntaf?) wedi bod wrthi'n hogi ei gyllell ers meitin wrth gwrs, ond am ryw rheswm ro'n i'n meddwl am y sylw hyn yn ddiweddar.  

Pob dydd wna i glywed canoedd o bobl yn siarad Saesneg, boed hynny ar y stryd, mewn siopau, yn y caffi, ym mhobman!  Prin iawn ga i glywed gair o Gymraeg (iawn, wn i mod i'n byw yn Lloegr!). Ond pe taswn i - a dwi wedi ar nifer o achlysyrau - i glywed rhywun yn siarad Cymraeg mi faswn i'n sicr o stopio a dweud s'mae, a chael sgwrs dymunol mwy na thebyg.   Onibai am y ffaith fy mod i'n siarad Cymraeg faswn i byth wedi dweud dim byd wrthyn nhw mae'n siwr.   Mae iaith wrth reswm yn rhywbeth sy'n wahanaethu pobl ac sy'n dod á nhw ynghyd. 

Trwy ddysgu Cymraeg dwi wedi cyfarfod, cymdeithasu, sgwrsio neu fynd yn gyfaill á llawer iawn o bobl diddorol a difyr.  Mae 'na gysylltiad naturiol rhywsut sy'n codi trwy rannu unrhyw ddiddordeb, ond mae dysgu iaith wrth reswm yn ymwneud á siarad a chymdeithasu.

Mae geiriau AA Gill (tafod mewn boch neu beidio?) yn dangos diffyg dealltwriaeth sylfaenol, hynny yw bod diddordeb mewn ieithoedd, pa mor fach bynnag yw'r nifer o siaradwyr, yn dod á phobl ynghyd, a dwi ddim yn gweld hyn yn peth drwg, wyti?

3 comments:

Emma Reese said...

Cytuno'n llwyr. Dw i'n hefyd cytuno â hanner cyntaf o beth ddwedodd AA Gill. Ond mae o'n anghofio (neu dydy o ddim yn gwybod) pwy sy'n gyfrifol am hynny.

Nic said...

Mae Adrian (yup) yn drol, mae'n siwr. Dw i ddim yn gwybod os ydy e'n credu'r pethau mae'n dweud am y Cymry a'r Gymraeg; debyg iawn dyw e erioed wedi meddwl am y peth o ddifri, dim ond fel targed hawdd i'w "hiwmor", un sy wedi hen ddysgu'r wers i beidio brathu yn ôl.

Mae fy agwedd i tuag at bobl fel Gill wedi newid cryn dipyn yn diweddar, diolch yn bennaf i ddarn gan Stewart Lee am Top Gear, a'r ffordd mae'n tynnu'r "Jeremy Clarkson defence" yn racs.

neil wyn said...

Mae'n siwr bod llawer o bethau'n cael eu dweud trwy anwybodaeth. Yn sicr does fawr dim i ennill trwy ddadlau'n erbyn y ffasiwn sylwadau, mae'r rhan mwyaf o bobl call (neu'r rheiny sydd gan unryw ots am yr hyn bod pobl fel Gill yn dweud!) yn eu gweld nhw mewn cyd-destun.

Mwynheuais 'rant' Stewart Lee, dwi'n siwr mi fydd o'n ychwanegu cryn ddefnydd at ei set 'TopGear' cyn hir!