3.4.11

Sir Fynwy...

Rydyn ni  newydd dychweled o egwyl bach lawr yn y De, hynny yw yn Sir Fynwy, Sir leiaf Cymreig a Chymraeg Cymru mae'n debyg.  Ni ddylai hyn bod yn syndod efallai, am ddim ond yn 1974 gafodd y Sir ei chynnwys fel rhan o'r Cymru cyfoes yn swyddogol.   Yn sicr mae enwau llefydd y Sir yn gyfeirio at y ffaith gafodd y Gymraeg ei siarad yn yr ardal yn y gorffenol, yn ogystal a'r ffaith bod Saesneg wedi rheoli dros ganrifoedd lawer.  Fel lot o ardaloedd y gororau gewch chi weld sawl enghraifft o enwau 'Cymraeg eu gwreiddiau' yn Lloegr.  Mi welon ni enwau llefydd gwych fel 'Llancloudy' a 'Welsh Newton' (sydd yn Lloegr!) ar y ffordd o'r Henffordd i Drefynwy.  Mae'n ardal gwledig hyfryd iawn, a gaethon ni groeso mawr gan berchnogion ein llety ym Mhenallt, tair milltir o Drefynwy, a chwta hanner milltir o'r ffin.  Mae 'Tafarndy Penallt' yn brolio arwyddion dwyieithog a brecwastau Cymreig, ac mae goriadau'r ystafelloedd wedi eu clymu i lwyau caru bychain.  Felly er glywais i mo'r un gair o Gymraeg (wel ar wahan i dri neu bedwar, ond sonia i am y rheiny yn y post nesa..) yn ystod ein arhosiad bach yn Sir Fynwy, teimlais yn bendant yr oeddwn i yng Nghymru fach.

1 comment:

Robert Humphries said...

Dwi'n nabod yr ardal yn dda, Neil. Ces i fy ngeni yng Nghasnewydd a fy magu yn Llanmartin ar gyrion y dref hyd yr oeddwn i'n 5 oed. Rhaid dweud, pob tro rwyf wedi dychwleyd i Gymru, rwy'n sylwi tipyn bach mwy o'r hen iaith yng Nghasnewydd a Sir Fynwy. Mae'n eglur bod pobl yno'n ymfalchïo mwy a mwy yn eu Cymreictod, er mai hynny yw'r ardal mwyaf "Seisnig" Cymru.