29.3.11

Darparu gwers....

7 comments:

Corndolly said...

Cŵl !! Mae'n anhygoel sut wyt ti'n gallu gwneud hynny, yn enwedig y geiriau sy'n arnofio ar y sgrin er mwyn dy gywiro. Mae gen i lawer o adnoddau yma rŵan - diolch i Pam, os wyt ti eisiau cyfarfod i'w gweld nhw, croeso i ti drefnu rhywbeth. Dywed wrthyf fi os wyt ti'n dod i Wrecsam yn fuan.

Nic said...

Dw i bob tro yn joio dy fideos bach Neil, diolch yn fawr am eu wneud. Beth yw hanes y gadair ti'n eistedd arni yma? (Sori os wyt ti wedi sôn amdani o'r blaen...)

Fyddi di'n gweithio ym Maes D o gwbl yn y Steddfod? Bydde'n braf cael panad a chlonc.

neil wyn said...

Fasai hynny'n wych! wna i bostio ti i drefnu rhywbeth os mae hynny'n iawn. Dwi'n defnyddio Live Windows Movie Maker rwan, sy'n digon rhwydd i ddefnyddio, ond dwi ddim wedi dod i arfer efo fo eto.

Diolch Nic. Dwi heb son am y dodrefnyn yn y cefndir o'r hyn dwi'n cofio. Nid cadair ydy o ond gwely, hynny yw un o bar o wlau Portiwgeuaidd a gafodd eu gwneud yng nghanol y 18C dwi'n credu. Mae'r pren yn 'Rosewood' ac mae safon y twrnio'n eithriadol o dda, er bod y cerfio braidd yn 'diniwed', hynny yw nid yr un safon a'r twrnio o bell ffordd. Mae'n posib a gafodd eu gwneud mewn un o 'wladfeydd' Portiwgal yn y dwyrain pell, gan bod nhw yn gallu cael eu 'fflatpacio'. Maen nhw'n aros i gael eu hadnewyddu, sy'n mynd i fod yn dipyn o swydd ar ran oriau, mae ffrind fy wedi eu hetifeddu, ac mae gynno fo 'mediteranean room' fasai'n eu gweddu i'r dim!

Dwi'n mynd i fod ym Maes D o leiaf cwpl o weithia. Mae'r dosbarth yn gwneud sgets, ac dwi'n wneud cyflwyniad efo Jon Simcock ynglyn a dysgu Cymraeg yn Lloegr. Fasai sgwrs a phaned yn wych!

Nic said...

Aha, o'r ongl hyn mae'n edrych fel cefn cadair eisteddfodol hen ffasiwn, ac o'n i'n dechrau amau bod beirdd yn dy goeden achau.

Ann Jones said...

Dwi'n meddwl mynd am ychydig o ddiwrnodau i'r Eisteddfod - a dwi'n meddwl mi fydda ar ben fy hun. Felly os dwi'n medru mynd, ac os oes gwynebau dy'n gyfarwydd o ei flogiau - hyd yn oed os dyn ni ddim wedi cyfarfod - my fysa i'n hoffi deud helo a cael sgwrs hefyd.

neil wyn said...

Ann, fasai'n braf cael sgwrs ar faes yr Eisteddfod. Wna i roi wybod i ti ba dyddiau fydda i'n gobeithio bod yna yn agosach at yr amser. Wnes i gwrdd á nifer o flogwyr eraill dwy flynedd yn ól yn y Bala, gaethon ni baned ym Maes-D, lle da i gyfarfod, a phaned rhatach y maes o bosib!

Corndolly said...

Hoffwn i'ch cyfarfod hefyd, plîs. Dw i'n meddwl bod Maes D yn lle delfrydol cyfarfod. Wnewch chi ddweud wrthyf a wna i fod yno ar yr un pryd.