7.5.11

Cylchdaith arall ar hyd lannau'r Dyfrdwy....

Ges i dip da'r wythnos yma i drio'r llwybr beicio sy'n glynu  at lannau'r afon Dyfrdwy o Bont Penarlág i Gaer, ac felly dyna be wnes i ychydig o ddyddiau'n ol.   Mae'n wirioneddol ffordd hwylus o gyrraedd Caer, ac o osgoi traffic y priffyrdd - rhywbeth sy'n digon i godi ofn ar rywun ar gefn beic y dyddiau 'ma.    Digwydd bod ro'n i'n ddigon ffodus i weld yr 'Afon Dyfrwdwy' (yr ysgraff y weli di yn y lluniau), yn cludo un o adenydd enfawr yr Airbus 380, 'cydran' sy'n cael eu cynhyrchu ym Mrychdyn.  Dwi'n credu mi gaeth y bad hynod o isel yma ei adeiladu'n arbennig i drosglwyddo'r cydrannau enfawr 'ma o'r ffatri i Borthladd Mostyn. Yn sicr does fawr o le o dan y pontydd.

Adain 'Super Jumbo' ar ei ffordd lawr y Dyfrdwy
Ar ol dilyn yr afon am rai saith milltir, mi wnes i ffeindio fy hun yng nghanol Caer, heb hyd yn oed gweld yr un gar!   Mae 'na gwpl o lwybrau di-draffic eraill sy'n arwain i Gaer i fod yn deg, un ar lon a greuwyd o hen reilffordd, ac y llall (yr un a ddewisais fel llwybr allan) ar hyd 'llwybr halio' y camlas, sef camlas y 'Shropshire Union'.   Gadawais y Dyfrdwy ger y lociau oedd yn arfer cysylltu'r camlas â'r afon (erbyn hyn mae rhwystr parhaol yn llenwi'r bwlch lle safwyd y llifddorau i'r Dyfrdwy), cyn i mi dreulio ychydig o amser yn dod o hyd i fan cychwyn cywir y llwybr halio -  mae'n hawdd dechrau ar ochr anghywir y camlas, ar lwybr sy'n dirwyn i ben ym mhen canllath! 

Unwaith eto dyma ffordd hyfryd iawn o gyrraedd neu adael Caer, a ffindiais fy hun yng nghanol y cefn gwlad mewn ychydig o funudau.   Ar ol tua pedwar milltir mi drois oddi ar y towpath ac ymunais â rhan o 'Rhwydwaith Beicio Genedlaethol Llwybr 56' (sef y llwybr Sustrans o Lerpwl i Gaer), sy'n cadw at lonydd bach a thawel, a cyn bo hir ro'n i'n ol yn fy man dechrau ger y Two Mills yng Nghilgwri.  Taith hyfryd mewn tywydd braf :)
Ysgraff yr 'Afon Dyfrdwy' a'i llwyth arbennig

No comments: