9.6.11

Diwedd tymor, diwedd blwyddyn, diwedd cyrsiau...

Wel mae tymor olaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben, hynny yw ar ran fy nosbarthiadau nos.  Mae'n annodd credu ein bod ni wedi cael 30 wythnos o wersi ers i ni ddechrau yn ol ym mis medi.  Y tro yma mae gen i deimladau cymysg a dweud y gwir.  Mae'r dosbarth blwyddyn tri wedi dod i ddiwedd y daith, wel y taith ieithyddol sydd ar gael yn yr ysgol mod i'n dysgu ynnddi.  Does dim modd cynnig blwyddyn pedwar iddynt, er bod y rhan mwyaf yn awyddus i ddal ati.  Mae aelodau'r dosbarth hwn yn teimlo fel ffrindiau bellach, a dwi'n awyddus i gynnig rhywbeth, felly wnawn ni ymdrechu dod o hyd i rywle arall i gyfarfod a chario ymlaen mewn modd llai ffurfiol o bosib.  Gwiliwch y gofod yma!

Tymor nesaf mi fydda i'n arwain myfyrwyr blwyddyn dau trwy eu trydydd flwyddyn gobeithio, a chymryd dosbarth arall o ddechreuwyr, os wnaiff digon troi i fyny i gofrestru.  Er hynny, mae 'na deimlad o ansicrwydd ar led yn gyffredinol ymhlith y tiwtoriaid, gan bod yr ysgol wedi troi'n 'academi', ac fel pob ysgol yn Lloegr bellach does dim rhaid iddynt cynnhig arbenigeddau er mwyn ennill arian ychwanegol.  Mae hyn yn golygu does gynnyn nhw ddim rheswm penodol, neu ddyletswydd cynnig cymaint o ieithoedd, a dim ond y ffaith bod y prifathro (dioch byth) wedi penderfynu parhau cynnig dosbarthiadau nos (ar ol edrych ar 'spreadsheet' manwl!) sy'n cadw pethau'n rhedeg erbyn hyn,  gawn ni weld be ddaw!

3 comments:

Corndolly said...

Dw i ddim yn siŵr a ydy'r un broblem gynnon ni yng Nghymru. Mae'r niferoedd o ddosbarthiadau wedi cynyddu yn ddiweddar, neu dyna beth dwi'n deall. Beth am symud dy ddosbarth i gyd dros y ffin, os oes rhaid?

neil wyn said...

Dwi yn gobeithiol down ni o hyd i rywle - er mwyn i'r flwyddyn 3 cario 'mlaen - ond does dim cymaint o dafarndai efo ystafelloedd ar wahan y dyddiau yma. O ran y cyrsiau 'swyddogol', dwi'n gobeithiol hefyd gawn ni ddigon, ond mae 'na mwy o bwyslais ar niferoedd eleni yn ol pob son.

Emma Reese said...

Llongyfarchiadau ar flwyddyn lwyddiannus arall. Gobeithio yr eith popeth yn iawn y flwyddyn nesa eto.

.