Gaethon ni ymarfer yn y ty neithiwr gan groesawu Geraint ac Ernie i'r 'cast'. Roedd o'n braf gweld pawb a chael siawns am sgwrs yn ogystal a gweithio ar ein 'campwaith eisteddfodol'!! Erbyn hyn mae 'na wyth o'r dosbarthiadau nos yn chwarae 'dysgwyr' yn y sgets, yn ogystal a finnau'n chwarae rhan y 'tiwtor'. O'r gorau, wn i fod ychydig o deipcastio'n mynd ymlaen yn fan hyn!
Dani wedi ychwanegu cwpl o gymeriadau i'r sgets gwreiddiol, a berfformwyd am y tro cyntaf (wel yr unig tro hyd yn hyn) yn Eisteddfod y Dysgwyr y Gogledd Dwyrain eleni. Mi fydd y perfformiad nesa, ac olaf mae'n debyg, ym Maes-D ar y pedwaredd o Awst am 12o'r gloch, a hynny heb y geiriau gobeithio. Dani wedi trefnu un ymarfer arall cyn y ddiwrnod mawr, a hynny mewn tair wythnos, sef dim ond pythefnos cyn y steddfod. Mae pawb wedi addo bod yn 'airberffaith' erbyn hynny, felly gawn ni weld!
1 comment:
"Afon Dwfn Mynydd Uchel!"
Post a Comment