Mi ges i gyfle'r wythnos yma i fynd i weld ty Daniel Owen yn Yr Wyddgrug, hynny yw'r ty a adeiladwyd ganddo yn sgil llwyddiant ei nofel 'Rhys Lewis'. Mae'r ty'n gyferbyn, mwy neu lai, i safle y ty teras lle ganwyd ef, ty a theras sydd erbyn hyn wedi ei ddymchwel (er mwyn hwyluso llif traffic y dre yn y chwedegau mae'n debyg), ond sy'n cael ei gofio gyda charreg goffa.
Felly dyma fi yn ymuno â chriw bach o ddysgwyr eraill, Eirian o'r Ganolfan Prifysgol Bangor yn y dre, a Nigel, perchennog y ty, am y cerddediad byr lawr i 'Faes y Dre', ac i lidiart blaen y ty fictorianaidd 'ar wahan' a adeiladwyd gan yr awdur a theiliwr o fri. Adeg Owen roedd Maes y Dre yn rywle ar gyrion Yr Wyddgrug, a ddisgwrifwyd yn y 'deeds' fel 'Near Mold'. Erbyn heddiw mae'r ardal hen wedi ei llyncu gan y dref ei hun. Rhaid roedd ganddo fo olygfeydd go dda hefyd, dros Ddyffryn Alyn, a thuag at y bryniau sydd erbyn hyn yn gartref i adeiladau Neuadd y Sir,, y Llysoedd Barn a'r Theatr. Mae stad o dai cyngor ar ochr draw y ffordd osgoi, a choed yr ardd ffrynt yn rhwystrau i'r olygfa a welodd Daniel Owen, ond mae'n digon hawdd dychmygu mai llecyn braf o dir oedd yr un a brynodd ef yn ol yng nganol y 19C am dua £60.
Yn ol 'deeds' y ty (os cofiaf yn iawn) gwariodd Owen tua £500 ar y gwaith adeiladu, ond o fewn ychydig o flynyddoedd (ac ar ol marwolaeth ei fam) dewisodd ef ei werthu (am ychydig llai o bres) a symud yn ol i'r dre ei hun i dy llai o lawer.
Gaethon ni daith o amgylch y gerddi, y stabl, y seler a nifer o ystafelloedd byw y ty, oedd i gyd yn ddiddorol iawn. Roedden ni i gyd yn trio dychmygu Daniel Owen yn eistedd wrth ei ddesg yn ysgrifennu hanes Enoc Huws, y llyfr yr ydan ni wedi bod yn darllen yn ddiweddar, a thestun cyflwyniad ym Maes-D ar y pedwaredd o Awst cofiwch!
Felly diolch yn fawr mawr i Nigel a'i deulu am ei garedigrwydd, ac am adael i ni grwydro o amgylch ei gartref arbennig.
No comments:
Post a Comment