Roedd rhaid i mi fynd lawr i Benbedw bore sadwrn, ac ar y ffordd adre mi alwais mewn i fore coffi'r Gymdeithas, oedd yn cael ei gynnal yn festri'r capel Cymraeg. Roedd o'n braf gweld nifer (ymhlith y nifer parchus o Gymry lleol) o'r dysgwyr dwi'n eu dysgu yno, sydd bellach yn aelodau'r gymdeithas, yn ogystal â chyfarfod dysgwraig arall sy'n rhugl mewn sawl iaith. Roedd Ernie (un o'r dysgwyr) yn brysur tu cefn i'r stondin planhigion, a phrynais i blanhigyn del, ond un na alla i gofio ei enw. Gobeithio'n wir un 'hardy' ydy o, gan nad ydyn ni'n enwog am yr un fys gwyrdd, heb son am fysedd. Doedd dim digon o amser gen i i edrych ar y stondin llyfrau'n fanwl, ond ges i fy narbwyllo i brynu cwpl o resi o docynnau raffl cyn gadael. Wrth i mi adael roddais 'nhocynnau raffl yn dwylo saff Mike, gan nad oedd y 'tynniad' wedi cael ei wneud erbyn hynny.
Digwydd bod, nes ymlaen ges i neges testun gan Anne, gwraig Mike, yn dweud ro'n i wedi ennill gwobr raffl, a hynny planhigyn arall!
2 comments:
Wyt ti'n mynd i nôl y wobr?
Dwi wedi gofyn i Anne a Mike gofalu am y planhigyn nes mod i'n eu gweld nhw mewn pythefnos.. ac mae nhw wedi cytuno chwarae teg!
Post a Comment