Meddwl ro'n i heddiw wrth seiclo lawr Cilgwri yn dilyn glannau'r Dyfrdwy am gwestiwn dwys iawn.. sef lle mae'r penrhyn yma yn orffen! A dweud y gwir do'n i ddim yn hollol siwr, a gafodd y sefyllfa ei cymhlethu rhywsut pan sefydlwyd bwrdeistref newydd o'r enw 'Wirral' yn ol yn y saithdegau. Cyn hynny roedd na ddau bwrdeistref sirol sef Penbedw a Wallasey, a chwpl o fwrdeistrefi trefol fel Hoylake a Bebington, i gyd yn rhan o Swydd Caer. Gaethon nhw eu taflu gyda eu gilydd a'u gwneud yn rhan o 'Merseyside' o dan yr enw 'Metropolitan Borough of Wirral' yn '72, gyda gweddill y penrhyn yn aros yn Swydd Caer. Ond yn ddaearyddol wrth gwrs mae Cilgwri yn dal i ymestyn mwy neu lai hyd at Gaer ac yn gynnwys llefydd fel Ellesmere Port. Yn ol llyfr Domesday "two arrow falls from the city walls" yw ffin Cilgwri, a wnaeth hynny gwneud i mi feddwl ac edrych ar fap!
Ar un adeg mi glynodd yr afon Dyfrdwy mwy neu lai at arfordir Cilgwri hyd at Blacon, a dilynodd y ffin cwrs yr afon. Pan camlasodd yr afon tua 1737, a hynny ar ochr draw yr aber, symud y ffin er mwyn gadw at gwrs yr afon oedd y cynllun gwreiddiol, ond yn y pendraw cadawodd y ffin at hen gwrs yr afon. Enillodd ochr Cilgwri yr aber y tiroedd newydd o'r gorsydd felly, ardal sydd heddiw yn gartref i bentre Sealand, Garden City, ac wrth gwrs Ystad Diwidiannol Glannau Dyfrdwy. Digon rhesymol ydy o felly i honni'r darn bach yma o Gymru fel rhan o Gilgwri, wrth gofio bod Owain Glyndwr yn honni y penrhyn gyfan fel rhan o'i Gymru newydd..
No comments:
Post a Comment