26.9.11

Gwlybdiroedd Cydwladol Burton Mere...

Bore dydd Sul, pigiais allan ar fy meic pen bore gyda'r bwriad o drio dod o hyd i ffordd arall o gyraedd Pont Sir y Fflint.  Caewyd  hen lon dros gorsydd aber y Dyfrdwy gan y weinidogaeth amddiffyn ychydig o flynyddoedd yn ol. Roedd y llwybr llygad yma'n arfer cysylltu pentre Burton yng Nghilgwri gyda gwaith dur Shotton.  Er ffordd preifat buodd y lon erioed, gafodd feicwyr a cherddwyr rhwydd hynt ei ddefnyddio, cyn belled a nad oedd dryllau'r Sealand Ranges' yn tanio.  Ta waeth, ers ychydig o flynydoedd rwan mae arwydd ar lidiart hanner ffordd lawr y lon, mwy neu lai ar y ffin, yn rhybuddio darpar teithwyr o ddirwy go lew a fydd yn eu disgwyl pe tasen nhw i fentro ar dir y MOD.

 Ond ar ol pori dros mapiau yr OS a delweddau daearyddol google earth, penderfynais anelu at lon bach arall sy'n ymddangos i arwain at y corsydd ac at ffin Cymru,   Ar ol i ryw tri chwater awr o bedlo cyson mi ges i fy hun ar dop y lon cul mewn cwestiwn, ond sylwais yn syth ar arwydd newydd yna, a hynny yn dy gyfeirio at 'RSPB Burton Mere Wetlands'.
Mi fentrais i lawr, a chwta hanner milltir o'r 'prif ffordd' cyrheuddais adeilad newydd sbon yr RSPB yn Burton Mere.  Yna mae 'na gyfres o lynoedd newydd a hen, sy'n dennu pob math o adar  (yn ol dynes o'r elusen adar wnes i siarad efo hi). Er bod y RSPB wedi cael gwarchodfa yn fan'na ers nifer o flynyddoedd, maen nhw newydd prynu'r hen bysgodfa ac wedi addasu'r llynoedd pysgota er les yr adar, yn ogystal a chodi 'hides' newydd a chyfres o lwybrau rhyngddynt.   Mae'r llecyn yma o dir yn pontio'r ffin rhwng Lloegr a Chymru, gyda thraean y gwarchodfa yn rhan o Sir y Fflint.  Digon addas oedd o felly cael Iolo Williams yno dydd gwener er mwyn rhoi stamp 'springwatch' ar yr agoriad swyddogol (rhywbeth wnes i ddarganfod ar ol cyrraedd adre a 'googlo' y lle). 

Iolo yn Burton Mere

Wrth sefyll ar lannau un o'r llynoedd yn sbio dros yr aber, sylweddolais, er mor agos ro'n i at Gymru (200llath?) nad oedd modd croesi'r gors o fan'na, ac mi fasa rhaid i mi bori eto dros y mapiau. ond er hynny ro'n i'n falch o ddod o hyd i rywle mor hyfryd, a rhywle i ddychweled ato heb beic!

1 comment:

Anonymous said...

There is tool Digeus Registry Cleaner I recommend to use this software when there are problems with windows system. I also recommend to use Windsty Tune Up Suite. It restores system to a healthy state.