|
Capel Claughton Rd 2011 |
Yn nghanol Penbedw mae 'na gapel briciau cochion sy'n dangos cliw i'w hanes efallai ar un o byst y giât blaen. Dwi'n cofio ffrind yn gwneud bach o waith yna cwpl o flynyddoedd yn ol, ac yn crybwyll bod y gweinidog wedi dweud wrtho bu'r adeilad capel Cymraeg ers talwm. Dyna pam felly yr wythnos diwetha cymerais funud neu ddau i graffu ar yr adeilad fictoriaidd yn chwilio am gliwiau i'w hanes. Welais i ddim byd amlwg fel 'maen dyddiad', ond wrth i mi feddwl am roi'r gorau i fy nghraffu, sylwais ar arwydd aneglur ond cyfarwydd a guddiodd ar un o byst tywodfaen y llidiart. Symbol 'Yr Awen' ydy hyn wrth gwrs, rhywbeth a gysylltiwyd â Gorsedd y Beirdd, ac arwydd efallai bod rhyw ddigwyddiad neu gyfarfod wedi ei gynnal yn y fan hyn, ond arwydd o gysylltiad Cymraeg.
|
yr arwydd ar y postyn |
Dwi ddim wedi llwyddo dod o hyd i unrhyw gwybodaeth am hynny eto, sy ddim yn syndod efallai, gan bod yn ol gwefan yr eglwys presennol symudon nhw i mewn yn 1917. Adeiladwyd y capel yn 1881 dwi'n credu. Mi ymwelodd yr Orsedd Penbedw ym 1917 wrth gwrs, blwyddyn Eisteddfod y Gadair Ddu ym mharc y dre wrth gwrs. Buon nhw yna cyn hynny efallai, pan cynhalwyd Eisteddfod Genedlaethol 'answyddogol' yn y dre ym 1879. Mae 'na fap OS ar gael o'r dref yn 1909, felly mae'n bosib fasai hwnnw dangos enwadau y capeli, dwn i ddim, ond ga i gipolwg arno fo y tro nesa i mi fod yn Waterstones ella,
4 comments:
Hi Neil, I was reading your post (using my exclent welsh language skills) about the symbol you have seen on sandstone post. The symbol is a 'benchmark', if you look on a good OS map and locate the symbol it should have a number very close to it. Depending on the age of the map the number it could be in feet/inch or meters (eg 100.00 or 30.00). The number refers to elevation of that benchmark above sea level. We use it when doing topographical surveys or a basic level surveys of the surrounding area. Sorry for my english response.
Ail i diwethaf (?)
http://benchmarks.ordnancesurvey.co.uk/pls/htmldb/f?p=111:3:2348281488829770558:pg_R_2926232049911008:NO&pg_min_row=1&pg_max_rows=15&pg_rows_fetched=1
diolch yn fawr Gary, rwyti wedi datrys y dirgelwch! (you've solved the mystery! though i still think this may have been a former welsh chapel )
Croeso. Robert Langdon dwi ;)
Post a Comment