Agorwyd 'Bethel' yn Heathfield Rd, Lerpwl ym 1927. Gafodd ei godi fel cartref newydd i gynulleifda Capel Webster Rd, ac efo lle i 750 o bobl. Roedd hyn yn adeg llewyrchus iawn i Gymry Glannau Mersi, penllanw cymdeithas Cymraeg Lerpwl, a chyfnod a welodd ymweliad arall gan yr Eisteddfod Genedlaethol i ddinas Lerpwl (1929), a hynny'r tro olaf i'r Prifwyl gadael tir Cymru.
|
'Bethel', Heathfield Rd. Lerpwl |
Chwech mlynedd yn ddiweddarach (1933) agorwyd 'y Tudor' yn West Kirby, sinema a theatr efo lle i 1100 o bobl. Buodd theatr fictorianaidd ar yr un safle o'r enw 'The Queens', ond codwyd y Tudor ar yr un safle ar ol iddo gael ei ddinistrio gan tân. Cymysgedd nodweddiadol o bensaerniaeth Art Deco a 'Thuduraidd ffug' oedd y Tudor, a gafodd ei gynllunio mae'n debyg i adlewyrchu arddull adeiladau du a gwyn eraill West Kirby.
|
Y 'Tudor' yn y 1960au hwyr |
Erbyn y chwedegau roedd cymdeithas Cymraeg Lerpwl ar ei lawr, gyda sawl capel yn cau eu drysau (neu uno gyda chapeli eraill) a chynulleidfaoedd y gweddill yn mynd yn hynach. Ar ol y rhyfel roedd 'na ostyngiad sylweddol yn y nifer o Gymry Cymraeg yn symud i lannau Mersi, hynny yw'r rheiny oedd wedi cynnal y capeli dros ganrif a mwy. Yn ogystal a hynny roedd yr iaith ei hunan yn brwydro i dal ei thir yng Nghymru, ac roedd capeli hyd yn oed yna yn stryffaglu yn sgil newid cymdeithasol enfawr.
Roedd cynulleidfaoedd sinemau ar eu lawr hefyd yn ystod y 60au (yn sgil newid cymdeithasol enfawr arall sef dyfodiad y teledu i bron pob cartref), ac mi gauwyd nifer mawr. Dyna fuodd hanes y Tudor, a chyflwynwyd y ffilm olaf yn West Kirby ym 1965. Ailagorodd am gyfnod fel neuadd Bingo cyn cael ei droi yn fwyty gyda thema ffilmiau o'r enw 'GoodTimes'. Maes o law mi ddaeth ei gyfnod fel bwyty i ben, ac mi drodd yr adeilad yn 'arcade' siopa. Aflwyddiant oedd y fenter honno, ond gafodd ei addasu i fod yn swyddfeydd i'r cyngor lleol. Gadawodd y cyngor tua 7 mlynedd yn ol bellach, yn gadael i'r Tudor druan pydru yn y fan a'r lle.
|
dymchwelwyr yn dechrau tynnu Bethel lawr (2011) |
Erbyn y 90au mae'n ymddangos roedd 'Bethel' yn llawer rhy fawr i anghenion aelodaeth y capel. Er mwyn i'r achos goroesi yn Lerpwl, roedd angen meddwl o ddifri am yr opsiynau, gan gynnwys gwerthu'r prif adeilad a defnyddio rhan arall o'r capel yn ei le. Mae'n syndod efallai, ond nad oedd 'Bethel' yn adeilad rhestredig, er gwaethaf ymdrechion y 'Wavertree Society', sy'n brwydro cadw cymeriad pensaerniol yr ardal. Buodd Bethel tirnod amlwg yn Wavertree am dros 80 mlynedd, ond methiant oedd yr ymdrechion i ddod o hyd i ddefnyddwyr arall. Yn ol y ffigyrau dim ond rhai £60,000 o waith cynnal a chadw oedd angen arno, sydd ddim yn swm enfawr o ystyried faint ac oedran yr adeilad, sy'n wneud ei golled yn waeth rhywsut. Dymchweliad felly oedd diwedd trist i un o symbol olaf Cymreictod Lerpwl, ond mi fydd achos 'Bethel' yn parhau mewn capel modern a lot llai sydd newydd cael ei agor ar ddarn o'r un safle. Caiff gweddill y safle ei werthu a datblygu fel fflatiau yn ol pob son.
|
y 'Tudor' yn diflanu yr wythnos yma,
ond wnaiff y facade goroesi o leiaf |
Draw yn West Kirby roedd cwmni Aldi wedi bod yn llygadu safle'r Tudor. Wnaethpwyd cais i godi archfarchnad yno a chyhoeddwyd lluniau hardd o'u cynlluniau gan gynnwys
facade Tuduraidd y Tudor fel prif fynedfa i'r siop arfaethedig. Derbyniodd y cynllun croeso gwresog yn y bon, gan y cyngor a'r cyhoedd, ond erbyn i'r cais cynllunio cael eu cyflwyno doedd dim arwydd o'r hen sinema! Yn wahanol i gapel Bethel, roedd y Tudur yn adeilad rhestredig, a mynodd y cyngor bod
facade yr adeilad (o leiaf) yn cael ei gadw. Er gwaethaf safiad Aldi bod archwiliad wedi darganfod gwendid strwythyrol yn facade y Tudur a fasai'n gwneud iddo fo yn rhy gostus i'w gadw, mi fynnodd y cyngor eu bod nhw'n cadw at eu cynllun gwreiddiol.
Dros yr wythnos diwetha maen nhw wedi bod wrthi'n ddymchwel y rhan mwyaf o'r Tudur, ond o leiaf mi fydd darn yn goroesi fel rhan o'r archfarchnad. Ond mae'n siom efallai na lwyddodd yr awdurdodau yn Lerpwl cyrraedd y fath cyfaddawd....
No comments:
Post a Comment