Mi ges i fy ysgogi i ddarllen 'Yn y Ty Hwn' ar ol darllen sylwadau ffafriol iawn gan Junko.
Ges i ddim fy siomi. Wna i ddim dweud gormod, dim ond ysgogi unrhywun arall i'w ddarllen. Mae safon yr ysgrifennu yn ardderchog, ond rhaid i mi gyfadde (er mawr cywilydd) ni faswn i wedi dewis y llyfr heb ddarllen yr adolygiadau a sgwennwyd amdana fo. Dyna'r trafferth o gael dy ddylanwadu yn ormodol gan glawr llyfr, weithiau wnei di ddarllen llond llyfr o rwtsh, a thro arall wnei di golli gampwaith. Mae gan 'Yn y Ty Hwn' lun trawiadol ar ei glawr, ond un sy'n awgrymu dyfnder y stori tu mewn. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi codi ofn arnaf yn y gorffenol, ond gobeithio fy mod i wedi dysgu gwers trwy beidio dilyn fy ngreddf arwynebol cyntaf.
Wn i fod Sian Northey wedi sgwennu i blant yn y gorffenol, ond credaf mai hwn yw ei nofel cyntaf i oedolion. Gobeithio'n wir ga i gyfle i ddarllen rhywbeth arall ganddi cyn bo hir.
Fy her nesaf o ran darllen yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, sef 'Tair Rheol Anrhefn' gan Daniel Davies. Dyma lyfr hollol wahanol, llawer hirach, ond un dwi wirioneddol yn mwynhau hefyd. Stori ditectif ydy o mewn ffordd, gyda'r holl ddigwyddiadau yn dilyn llwybr arfordir sir Benfro.
Dwi'n agoshau diweddglo'r hanes erbyn hyn, ac yn ystyried be i ddarllen nesa, a beth i roi ar fy rhestr Nadolig hefyd. Mae gen i 'Stori Saunders Lewis, Bardd y Chwyldro yng Nghymru' i bori yn y cyfamser.
7 comments:
Mi wyt yn iawn mae llyfr cyntaf i oedolion ydy Yn Y Ty Hwn. Clywais Sian Northey yn siarad am sgwennu y llyfr yn y Gwyl Arall yng Nghaernarfon, ym mis Gorffenaf.
A dyna be oedd yn fy sbardino i brynu'r llyfr (wel, i ddweud y gwir, rhois y llyfr ar rhestr a phrynnodd ffrind y llyfr i fi am fy mhenbwlydd)
Wnes i fwynhau o'n arw, hefyd, a ti'n iawn, mae safon y sgwennu yn uchel. Dim llyfr i ruthro trwyddo.
Os wyt ti'n chwilio am llyfrau eraill, swn i'n awgrymu Caersaint, os wyt ti ddim wedi darllen o, a hefyd Y Gwyddel: O Geredigion i Galway
Falch iawn o glywed fod tithau hefyd yn mwynhau'r nofel hon! Mae'n reit anodd ffeindio llyfrau da yn enwedig yn Gymraeg.
Ann, meddwl oeddwn i am drio Caersaint ond dw i ddim eisiau nofelau efo gormod o dafodieithoedd. Sut mae'r nofel hon o safbwynt tafodiaith?
diolch Anne, dwi wedi darllen Caersaint ac wedi ei fwynhau, ond dwi heb ddarllen Y llall eto.
Os ga i wneud sylw ynglŷn â thafodiaeth Caersaint Junko (a nad ydwi'n arbennigwr i ddweud y lleia!), o'r hyn dwi'n cofio nad ydy'r tafodiaeth yn ormod o broblem i ddarllenwyr sy ddim yn cyfarwydd efo iaith y cofis, hynny yw dwi ddim yn cofio cael trafferth deall, ond dwi yn cofio mwnhau'r hanes.
Diolch i ti, Neil. Caersaint sydd ar fy rhestr ddarllen ar ôl i mi orffen hunangofiant Orig Williams felly.
Dwi'n gweld ein bod yn cytuno am Yn y Tŷ Hwn. Gyda llaw, dwi'n mwynhau dy flog.
diolch am ddweud 'Sgentilyfrimi' :)
Post a Comment