17.12.11

scribl am scrabl....

Mae'n peth amser ers i mi bostio ar y blog yma, er i mi sgwennu ambell i beth a'u cadw fel drafft.  Dwn i ddim pam, ond ella mod i wedi bod yn ceisio sgwennu traethawd yn hytrach na jysd rhoi pethau bach ymlaen (sy'n syniad gwell tybiwn i!).  Ta waeth, ella mi dria i orffen ambell i un o'r drafts rhywdro, gawn ni weld.

Dros yr wythnos yma dwi wedi bod yn brysur trio gorffen cwpl o jobsys cyn y dolig, ac hefyd dysgu fy nosbarthiadau nos olaf y flwyddyn. Sgwennais i bwt ar Ddysgwyr Cilgwri am y rheiny.

Ges i fy ngem cyntaf o Scrabble Cymraeg hefyd, hynny yw fersiwn ar-lein ohono, sydd ar gael i ddefnyddio am ddim ar wefan www.wabble.org   

Diolch i Ro am y gem, ac er i ni gael ambell i anhawster technolegol, gaethon ni hwyl dwi'n credu, a ddysgais i nifer o eiriau newydd.   Dwi am ei drio fo eto cyn hir ( a Ro hefyd gobeithio), ond mae 'na le i bedwar o amgylch bwrdd Scrabl cofiwch!  a fasai hynny'n rhoi mwy o amser i ni feddwl am y gair nesaf hefyd! 

Dwn i ddim os problemau'r meddalwedd oedd gwraidd ein anhawsterau wrth chwarae, ond mae 'na fodd rhoi adborth i ddatblygwr y gem, felly gobeithio wneith pethau gwella dros amser.

2 comments:

Emma Reese said...

Felly y ti a Ro sy'n chwarae'r unig gêm Gymraeg ar hyn o bryd? (Mae na un Eidaleg hefyd!)

Roeddwn innau'n teimlo'n debyg ynglyn sgwennu blog hyd misoedd cynt. Ond penderfynais i ddal ati a thrio sgwennu bob dydd dim ots am be' er mwyn cadw fy Nghymraeg. (Rhywsut mae sgwennu blog yn fwy deniadol na dyddiadur personol.)

neil wyn said...

yndyn! dwi heb dod o hyd i'r un scrablydd-Cymraeg-ar-lein arall ar y wefan hyd yn hyn!

da iawn am gadw at y blogio'n mor reoliaidd. Dwi dim yn eu darllen nhw pob dydd, ond pan dwi'n ymweled a'th flog di, wna i edrych trwy'r gyfan dwi heb eu darllen o'r blaen.