29.12.11

teledu'r wy^l a ballu....

Blwyddyn Newydd Dda i bawb sy'n dilyn y blog 'ma.   Gobeithio gewch chi flwyddyn llewyrchus a hapus!

Dwi wedi gwneud un adduned bach, a hynny i ymdrechu darllen un llyfr Cymraeg pob mis dros y deuddeg fis nesa, felly gawn ni weld am ba hyd wneith hynny parhau.

Mae'r flwyddyn diwetha wedi bod yn un mawr mewn gwirionedd (a drud!), gyda Jill a finnau'n dathlu penblwyddi 'mawr', yn ogystal a dathlu penblwydd priodas arian hefyd.  Mae'r tri ffigwr yn wneud cyfanswm o 125 mlynedd, wna i adael i chi wneud y 'syms'!!

O ran fy astudiaethau Cymraeg, dwi'n edrych ymlaen at gwrs ysgrifennu creadigol yn Nhy Pendre ym mis ionawr gyda Aled Lewis Evans, yn ogystal a mynd i Nant Gwrtheyrn ar gwrs 'hyfrededd' ym mis chwefror (gobeithio! - hynny yw os mae digon wedi cofrestru i gynnal y cwrs), neu efallai yn y gwanwyn.

Rhaid i mi ddweud mod i wedi mwynhau yn fawr iawn nifer o raglenni S4C dros cyfnod y nadolig.
Nad ydw i'n ffan mawr o sioeau 'adloniant' y sianel fel y cyfriw, hynny yw pethau fel 'Noson Lawen', neu sioeau 'Rhydian' ac 'OMA'.  Maen nhw'n ymweld i mi braidd yn 'ailradd' o gymharu i sioeau Saesneg yn yr un genre,  ond dwi'n derbyn bod 'na gynulleidfa yn barod i'w gwylio.
 Son ydwi am bethau fel 'Orig', y ffilm am Richard Burton, a'r ffilm ardderchog am brofiad Richard Harrington yn chwarae rhan Burton.  Mae ein sianel Cymraeg annwyl ni'n yn gallu wneud rhai pethau cystal ag unrhyw sianel.   Mae hyd yn oed 'Pryd o Ser Dudley' wedi bod yn 'wyliadwy' iawn, gyda golygu a chynhyrchu crefftus a chriw o 'selebs' digon dymunol,  Da iawn S4C.

Mae'r ipad wedi bod yn chwyldroadol a dweud y gwir yn y ffordd mod i'n gwylio'r sianel gyda 'app' S4Clic yn gynnig ffordd syml a dibynadwy o ddal i fyny efo cynhyrch y sianel unrhywle yn y ty, hyd yn oed y ty bach!!

hwyl am y tro...

3 comments:

Ann Jones said...

Dwi'n cytuno am y rhaglenni, Neil; nes i wylio Pryd o Ser hefyd, a roedd yn llaweenwell na'f fersiwn Saesneg! A hefyd mwynhais Cariad@iaith, a Mel a Nia. Dwi hefyd yn galch iawn o gweld cyfres newydd o Rownd a Rownd. Dan ni wedi son am hyn o'r blaen, a er mae rhaglen plant ydi o, mae'r sgript yn dda iawn. Hyd yn hyn, dwi ddim yn siwr am y ffilm Patagonia, ond dwi ddim wedi gorffen eingwylio hi eto.

Dwi'n genfigennys am y cwrsiau. Ar y funud dwi yma yng Nghaernarfon yn mynd i'r Ysgol Galan ym Mhrifysgol Bangor - a mae o'n dda iawn, ond mi faswn yn hoffi trio cwrs sydd ddim i ddysgwyr. Ond bydd rhaid aros tan ymddeol, dwi'n meddwl, efalla.

DSO said...

Neil, wyt ti wedi dewis dy lyfr nesaf? Dw i'n awyddus i glywed am lyfrau sy'n werth eu trio.

- Diane

neil wyn said...

Diolch am y sylwadau Ann:)

Diane, Dwi newydd dechrau 'Pwll Ynfyd' gan Alun Cob, sy'n edrych ar ochr tywyll dinas Bangor!! Dwi'n methu ei roi i lawr dweud y gwir, ond wna i sgwennu amdana fo yn fan hyn ar ol gorffen