Wnes i brynu cwpl o grynoddisgiau ar faes yr Eisteddfod sef 'Jig Cal' gan Sibrydion a 'Brigyn' gan... Brigyn. Mae Sibrydion wedi codi o'r gweddillion 'Big Leaves' sef y brodyr Meilir ac Osian Gwynedd hanner y pedwarawd dawnus o Fethesda. Mae 'na gyffyrddiadau neis iawn ar yr albwm, a nifer o draciau cofiadwy. Gwerth ei brynu yn fy mharn i. Wrth cyd- digwyddiad cafodd albwm Sibrydion ei chynhyrchu gan yr hogiau Brigyn! sef y brodyr Roberts oedd yn aelodau'r grwp poblogaidd Epitaff. Mae'r cynhyrchiad o'r dau albwn yn arbennig o dda ond mae ardull cerddorol Brigyn yn hollol wahanol. Mae'r hogiau yn gallu sgwennu alawon cofiadwy, reit 'catchy' ac eu trefnu nhw yn syml ond effeithiol iawn.
Ro'n i eisiau prynu albwm newydd Gwyneth Glyn (wnes i fethu ei ffeindio) ac Alun Tan Lan, mi welais i'n canu ar lwyfan Maes-d. On yn anffodus roedd y pres yn rhedeg allan.
Un peth arall wnes i brynu i fy hun oedd llyfr gan Bethan Gwanas. Mae 'Gwrach y Gwyllt' yn dipyn o 'botboilwr' (ddrwg gen i!), sy'n llawn o rhyw, S a M ac iaith lliwgar (dim ond chwater y ffordd drwyddi hi ydwi hefyd!) Yn ol y clawr 'Does dim nofel Cymraeg yn debyd iddi'. Bobl bach, dwi'n gallu ei chredu!
Wel yn ol at y llyfr......
No comments:
Post a Comment