9.8.05

rhagor am yr eisteddfod

Fel wnes i crybwyll yn barod, mi ges i ddiwrnod lawr yn yr Eisteddfod bron wythnos yn ol erbyn hyn. Roedd rhaid i mi gadael Cilgwri andros o gynnar er mwyn gwneud yn siwr o gyrraedd Y Faenol tua hanner wedi wyth. Dim ond taith o jest dros saith deg milltir ydy o, ond fel arfer mae'n gallu cymryd awr a hanner. Gan mod i'n cystadlu yn y llefaru i ddysgwyr erbyn naw o'r gloch, o'n i eisiau bod ar y maes hanner awr yn gynt er mwyn cael panaid a cyfle i ffeindio Maes-d (enw dros pabell y dysgwyr eleni).

Fel y digwyddodd, roedd 'maes-d' o flaen eich llygaid wrth i chi cerdded trwy mynedfa'r faes, felly doedd dim problem fan'na. Roedd 'na tua hugain o gystaleuwyr yn cymryd rhan yn y cystadleuaeth, ac yr un nifer o leia yn eu cefnogi nhw. Efo'r beirniadau a'r swyddogion maes-d fasai wedi bod bron hanner cant yn y cynulleidfa, digon i mi ta waeth.

Wnes i ddim anghofio'r geiriau, ond es i ddim ymlaen at llwyfan y pafiliwn yn y prynhawn. Mewn gwirionedd, ar ol i mi clywed safon y cystadleuwyr eraill, ges i ddim sioc i fethu clywed fy enw fi yn y rhestr o dri a chafodd eu dewis i symud ymlaen.

Dim ond deg o'r gloch oedd hi erbyn hynny, felly ges i weddill y ddiwrnod i grwydro'r maes a dewis llyfrau, chrynoddisgiau, anrhegion i'r teulu ac ati.

rhagor i ddilyn.....

1 comment:

Rhys Wynne said...

Fues i'n fachgen da eleni a pheidio prynnu dim llyfr na Cryno Ddisg cerddoriaeth, dim ond 2 CD cyfrifadurol (Linux ac OpenOffice) Cymraeg o stondin Meddal.com a chylchgrawn Barn. Roedd hyn yn rhannol am na welais beiriant 'twll-yn-y-wal' nad oedd yn codi ffi am dynnu arian allan nes i mi weld stondin Swyddfa'r Post diwedd y dydd.