13.12.06

her go iawn harri potter

Falle dim ond llyfr i blant ydy 'Harri Potter a Mae'n yr Athronydd', ond bois bach mae'n her go iawn i ddysgwr! Dwi wedi darllen ychydig o lyfrau Bethan Gwanas (fel dwi wedi crybwyll o bryd i'w gilydd ar y blog hon siwr o fod), ond mae'r hen 'Harri' wedi diweddu bod fy her mwya ar rhan darllen yn yr iaith Cymraeg. Un peth sydd wedi ychwanegu at y her heb os ydy y geirfa 'dewiniaidd' sy'n llenwi y tudelanau, nid y math o eiraiau bod eich dysgwr nodweddiadol yn mynd ati i ddysgu heb angen. Mae'r dull o sgwennu yn eitha leneddol hefyd, yn cymharu i lyfrau Bethan Gwanas o leia, ond wedi dweud hynny dwi wedi dod yn arfer efo hi erbyn hyn, ac mae'n stori da.

Dwi'n gobeithio ei gorffen hi cyn y dolig gan mod i'n disgwyl cwpl o lyfrau eraill yn fy hosan.. oddi wrth Sion Corn wrth cwrs.

No comments: