21.12.06

parti dolig

Un o'r dyddiadau pwysig ar galendr dysgwyr o Sir y Fflint (a thu hwnt) yw'r 'parti nadolig y dysgwyr' a chafodd ei chynnal nos fawrdd. Ro'n i'n parti dolig y dysgwyr 'morwyn' fel petai, felly o'n i ddim yn hollol sicr be' yn union i ddisgwyl o'r noson. Yr hyn o'n i ddim yn disgwyl heb os neu onibai, oedd i weld pobl yn creu gwisgoedd ffasiwn 'Eira Gwyn a'r saith corrach' allan o bapur lapio. Wrth cwrs wnaethon ni ddysgu eu henwau i gyd (cysglyd, pwdlyd...anghofiais y lleill!) fel rhan o'r hwyl ond chwarae teg mi wnaeth llawer o'r cystadleuwyr ymdrech godidog.

Roedd 'na lond bwrdd o fwyd, scetsh gan cwmni drama newydd yr ardal, caneuon gan 'Parti Pentan' yn ogystal a'r digwyddiadau digrifol efo'r papur dolig a balwns.

Ces i sgwrs bach efo 'swyddog y dysgwyr' (sy'n tiwtor Cymraeg hefyd) adnabyddais o bwyllgor yr eisteddfod, a dwedodd wrthi fi roedd 'na llond bwrdd o bobl eraill o benrhyn Cilgwri yna, sef un o'i ddosbarthiadau nos a chafodd ei sefydlu ochr yma'r ffin gan roedd lot o bobl yn teithio i Sir y Fflint er mwyn ffeindio cwrs. Byd bach yn wir. Unwaith eto mae'n calonogol gweld cymaint o bobl yn cefnogi noson fel hon. Da iawn yn wir i Fenter Iaith Sir y fflint wnath trefnu pethau.

No comments: