30.3.07

Nos da i dafarndai mwglyd..

Ges i fy niod olaf mewn tafarn Cymreig llawn mwg nos fercher. Gan bod y Castell Rhuthun yn yr Wyddgrug yn fwglyd tu hwnt fel arfer, rhaid i mi ddweud mae'n hen amser, er mod i ddim wedi poeni cymaint amdanhi fy hun. Ond dwi'n nabod ychydig o bobl sy'n cadw i ffwrdd oherwydd cyfuniad o ddiffyg awyriad a mwg. Bydd hi'n profiad gwahanol/diddorol ymweled a^'r lle y wythnos nesa ta waeth.. falle fydd hi'n wag, neu falle fydd hi'n llawn o gwsmeriad yn prynu 'wyau wedi ei piclo' neu 'grafiadau porc' yn lle sigarets, pwy a wyr..

2 comments:

Rhys Wynne said...

Fel; rhywun sy'n trefnu/mynychu nosweithiau cymdeithasol i ddysgwyr mewn tafarndai, dwi o'r farn bod y llefydd yn llawn mwg wedi troi pobl ffwrdd - gobeithio daw llawer mwy rwan!

Linda said...

A hen bryd hefyd! Mi fyddaf yn edrych ymlaen i fwynhau pryd o fwyd heb yr hogla mwg sigarets pan ddof adref tro nesaf:))