5.6.07

Elementary Welsh for Schools & Private Students 1891



Mi ddes i o hyd i hen lyfr heddiw, un mi ges i nifer o flynyddoedd yn ol (cyn i mi ddechrau dysgu'r iaith 'ma o ddifri) pan oedd fy Mam yn clirio allan ty Nain a Thaid. A dweud y gwir wrthoch chi, dwi heb edrych arnynt ers hynny, ond tynodd un fy sylw yr heno 'ma pan o'n i'n chwilio am lyfr arall. Mi gafodd "Elementary Welsh for Schools & Private Students" ei cyhoeddi yn 1891 ar gyfer 'The Society for Utilizing the Welsh Language' (rhywfath o Fenter Iaith y nawfed ar ddeg ganrif efallai?), a chostiodd y cyfrol 'Ninepence', yn yr hen arian wrth cwrs, rhai 4.5p!

Un darn diddorol dros ben yw'r 'cyflwyniad', sy'n son am y pwerau newydd eu rhoi i ysgolion yng Nghymru. Mae nhw yn cynnwys yr hawl i ddysgu Cymraeg fel pwnc gwahanol, yr hawl i ddysgu hanes Cymru, ac os ga i dyfynu "In every standard and for every subject, bilingual reading books may be used, teaching Welsh and English reading side by side". Felly mae'n ymddangos a gafodd y llyfr bach hwn ei gyhoeddi mewn cyfnod chwyldroadol i addysg yng Nghymru, er cymerodd dros 60 mwy o flynyddoedd cyn sefydlwyd yr ysgol cyfrwng Cymraeg cyntaf.

Peth arall o ddidordeb yw'r cyfieithiadau o 'ti', hynny yw'r 'you' anffurfiol neu sengl, sy'n cael ei cyfiethu i 'thou' e.e.

Yr oeddit yn cael dy ddysgu - thou wast taught

Yr wyt yn cael dy ddysgu - thou art taught.



Wrth cwrs mae 'thou' hen wedi diflannu o'r Saesneg, (ar wahan i ambell i dafodiaeth Swydd Efrog) ond ar wahan i hynny mae popeth yn dealladwy. Dwi'n cofio fy Nhaid yn son am ddysgu Cymraeg i ei hun yn ei arddegau er mwyn deall be' oedd yn mynd ymlaen yn y Capel (cafodd ei eni a'i fagu ym Mhenbedw, Lloegr), felly efallai roedd hyn un o'r llyfrau a brynodd o er mwyn mynd ati? pwy a wir...

1 comment:

James said...

Mae llyfrau y plant yn da iawn i ddysgwyr newydd o Gymraeg. Mae fy hoff i'n y llyfrau 'Ladybird Key Words Reading Scheme' sy'n Cymreigio.
Dyma beth ddysgais i oddi mewn dy lyfr... "Yr oeddynt yn cael eu cymreigio" yn y 60's felly mae eu grammadeg nhw'n heneiddio hefyd.