7.6.07

Rhamantiaid newydd



Cafodd y llun hon ei dynnu tua chwater canrif yn ol gan 'ngwraig yn Lerpwl. Pryd hynny roedd jill yn astudio lefel 'A' yn ffotograffiaeth yn y Coleg ac mi aeth hi ati i grwydro strydoedd y dinas er mwyn dod o hyd i bobl sydd yn fodlon 'bwrw ystum' ar ei gyfer hi.

Dwi'n dangos y llun o'r 'Rhamantiaid newydd' 'ma gan mod i newydd derbyn print mawr ohonhi ar ganfas, sydd erbyn hyn yn hongian ar wal y lolfa. Wnes i sganio yr argraff gwreiddiol cyn ei yrru hi at rhai cwmni bach yn Swydd Derby (mae 'na lwythi ohnynt yn cynnig y fath 'ma o wasanaeth) hynny yw sy'n troi eich 'delweddau' digdol chi i luniau ar ganfas. Mae'r cyfrwng canfas yn addas iawn i luniau digidol gan bod y canfas yn lleihau'r tueddiad i'r picsels ymddangos. Ta waeth, gyrrais i fy jpeg nos fawrdd, ac ar fore iau roedd y print canfas 60 x 40cm yn addurno wal y lolfa.. gwasanaeth bendigedig 'swn i'n dweud, am swm ychydig yn llai na £30

2 comments:

James said...

Dyna neis llun i hongian yn y lolfa ond pa un ydy dy wraig di?

neil wyn said...

Da iawn James!! Ro'ni'n dweud wrth fy ngwraig dim ond ddoe am y ffaith mi fydd y criw yn y llun 'ma yng nghanol eu pedwarddegau erbyn hyn, ac yn gwisgo dillad call mwy na debyg!