11.8.08

Hardeep mewn diwylliant Cymraeg....

Mi glywais adolygiad raglen BBC2 am yr Eisteddfod ddoe, tra wrando ar sioe Radio Cymru Sian Thomas. Felly neithiwr mi es i ati i'w lawrlwytho a'i gwylio ar bbc i-player (gwasanaeth defnyddiol er andros o araf am ryw rheswm). Dwi'n hoff iawn o'r Albanwr 'Sikhaidd' Hardeep Singh, mae ganddo fo ardull sych, hamddenol, efo gallu i gymryd i 'mickey' o bethau mewn ffordd tyner, heb bod yn or-greulon megis sawl digrifwr.

Mi wnath o argraff drawiadol ar y 'Maes' mewn ei dwrban lliw 'pafilion', wrth iddo fo grwydro caeau Pontcanna yn siarad gyda eisteddfodwyr, wrth ei fodd yn ymarfer cyfarchion newydd ei dysgu gan Nia Parry. Mi wnath o ymdrech parchus i ynganu'r geiriau'n iawn, wrth siarad gyda amrywiaeth eang o bobl. Cryfder y sioe efallai (ar wahan i bresenoldeb Hardeep ei hun), oedd y nifer mawr o wynebau rhwngwladol gafodd Hardeep y cyfle i siarad gyda nhw, gan cynnwys Bryn Terfel, Connie Fisher, Cerys Maththews a Matthew Rhys, pobl mi gyfarchiodd Hardeep gyda gwres naturiol a diddordeb go-iawn. Ond pwysicach na'r pobl enwog oedd ar gael iddo fo, mi wnath o dynnu sylw at yr ieunctid, rhywbeth roedd yn amlycach eleni yn sgil y coroni o'r 'Baby Faced Bard', a gafodd Huw Stephens y cyfle i gyflwyno rhai o fandiau addawol o lwyfan Faes B.

Wnes i fwynhau'r sioe, un mi aeth allan dros Prydain Fawr ar BBC2. Mi gafodd Hardeep blas digon mawr ar ddigwyddiadau y brifwyl i wneud rhaglen deallus, doniol, sensatif, am sefydliad tydi'r rhan mwyaf ohonon ni ddim yn deall yn rhy dda.

Os wnaethoch chi ei fethu, ewch i bbc i-player lle mae'n ar gael am sbel i ddod, mae'n werth ei weld:

http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b00d18bm/

No comments: