31.8.08

Y Côr Olaf ar ei Draed...

Fel teulu, dyni'n tueddi treulio rhan o nos sadwrn (mae'n drist dwi'n gwybod!) yn gwilio'r fath o raglen sydd bron yn traddodiadol bellach, sef y rhaglenni 'talent' di-ri. O'r holl rhaglenni sydd wedi eu cynhyrchu erbyn hyn, mae'n debyg roedd 'Last Choir Standing' y llwyddiant mwyaf annisgwyliadwy (os llwyddiant yr oedd hi ar ran ffigyrau gwilio? dwn i ddim) A dweud y gwir mae'n debyg mai 'Last Choir Standing' oedd yr unig rhaglen o'r fath hon sy'n wir am dalent, a nid yn bennaf am gael hwyl ar bennau y miloedd o 'eisiau-bod-iaid' sy'n fwy na barod i dderbyn unrhyw fath o gyhoeddusrwydd i gadw eu breuddwyddion ffôl yn mynd.

Un o'r pethau mwyaf anhygoel am y cyfres 'Last Choir' efallai, yw'r ffaith a welon ni ddau côr o Gymru yn y dau olaf, ac hynny allan o ganoedd wnath cystadlu. Mae 'na wirionedd yn y 'cliches' am Gymru efallai, mae'r 'Gwlad o Gân' wedi dangos rhyw dyfnder cerddorol sy'n bodoli o hyd, diolch yn bennaf i gyfunfrefn o gystadlu a pherfformio sy'n cael ei maethu trwy'r rhwydwaith o eisteddfodau.

O'r dau côr y y rownd terfynol, mi faswn i wedi hoffi gweld 'Ysgol Glanaethwy' yn dod i'r brig, mae'n well gen i gôrau o ferched a dynion, ac o'n i'n meddwl mi roddon nhw berfformiadau'n fwy gwefreiddiol ar y noson. Ond 'sdim ots, mi ennillodd 'Only Men Aloud' (neu 'Cantorion' i roi eu enw Cymraeg iddynt, er does fawr o saiwns o'r enw hon yn cael ei defnyddio o hyn ymlaen!), ond ennillodd brwdfrydedd y corau i gyd!

1 comment:

Linda said...

Gresyn na chafodd Côr Glanaethwy y wobr gyntaf, ond llongyfarchiadau i'r côr buddugol. Os gei di hyd i linc i rai o'r perfformiadau gan y ddau gôr o Gymru, gad i mi wybod.Tydi'r linc ar safle we'r rhaglen ddim yn gweithio tu allan i'r DU :(