18.8.08

'Ryff Gaed'

Ces i gopi o'r 'Rough Guide to Wales' fel anrheg heddiw, sy'n amserol iawn gan ein bod ni'n mynd lawr i ardal Llanberis am ychydig o ddyddiau dydd mercher. Pob tro dwi'n gweld teithlyfrau am Gymru (mewn siop llyfr fel arfer), dyma fi'n ffeindio fy hun yn eu chwilota am son am y Gymraeg (neu diffyg son!). Faswn i wedi disgwyl i'r 'ryff gaed' tynnu sylw a dangos parch i iaith lleafrifol, a ces i mo fy siomi wrth bodio trwy'r cyfrol am tro cyntaf. A dweud y gwir teimlais roedd y teithlyfr wedi gor-bwysleisio cryfder sefyllfa'r Gymraeg trwy dweud pethau fel: 'magazines,newspapers and websites in the old language are mushrooming'. Mae'n amlwg mi gafodd y pennod am yr iaith ei sgwennu cyn i freuddwyd pabur dyddiol 'Y Byd' dod i ben. Dwi ddim yn gweld y sefyllfa 'ar y tir' yr un mor cadarnhaol a'r llyfr hon yn ei awgrymu, ond mae'n braf beth bynnag bod rhai ymwelwyr o leiaf yn dod i Gynru gyda dealltwriaeth am yr iaith a'r diwylliant sydd yn glwm iddi hi.

3 comments:

Emma Reese said...

Wyt ti'n mynd i ddringo neu ddal y trên i gopa'r Wyddfa?

neil wyn said...

Cerdded heb os nag onibai mi faswn i'n dweud, er dwi'n hoff iawn o drenau bach. Wedi dweud hynny tydi'r tywydd ddim yn rhy addawol felly fydd rhaid i ni gadael Yr Wyddfa tan rhywbryd arall efallai, gawn ni weld..

neil wyn said...
This comment has been removed by the author.