21.9.08

Haf bach Mihangel...Bendith i Wŷl Fwyd

Mi ddoth yr haf bach Mihangel mae pawb wedi bod yn son amdanhi yn y pendraw. Roedd trefnwyr Gwŷl Fwyd Yr Wyddgrug siwr o fod yn falch ohoni, wrth i'r gwŷl beunyddiol cael ei bendithio gan heulwen cynnes mis medi. Yn yr hysbysebion mi wnaethon nhw frolio am lleoliad 'fully tarmacked' yr wŷl. Mi faswn i ddim wedi meddwl bod hynny'n rhywbeth i frolio amdanhi fel arfer, ond wedi profiad gwlyb tu hwnt cwpl o flynyddoedd yn ôl, ac ar ôl haf siomedig iawn, falle roedd pawb yn ofni'r gwaethaf. Ond disgleiriodd yr haul, a gafodd y maes parcio 'tarmacaidd' ei llenwi gyda aroglau blasus gynhyrch y stondinwyr, yn hytrach na'r nwyon gwenwynig arferol. Mi wnaethon ni flasu nifer o gawsau arbennigol, ambell i olewydd wedi ei stwffio, a llond llaw o wahanol cwrwau (y rhan mwyaf ohonynt o Gymru fach).
O'n i'n poeni braidd am y taith adre i Gilgwri ar ddydd sul heulog, gyda'r holl ymwelwyr a 'phenwythnoswyr' yn dychweled i lannau Mersi a Manceinion o'r arfordir. Mae'r gwaith ffordd ar y ffin ar hyn o bryd yn gallu achosi cur ben go fawr pan mae'n brysur, ond doedd dim rheswm i mi boeni, mi hwylion ni drwy Ewloe a Queensferry didrafferth, efallai roedd pawb yn gwneud y gorau o bob awr o heulwen ac aros yn hwyrach nag fel arfer.

No comments: