12.9.08

Noson Gofrestru

Mi gawson ni noson gofrestru llwyddianus nos fawrdd gyda digon o ddysgwyr yn cofrestru i gynnal y cyrsiau Cymraeg lefel 1 a lefel 2 yma yng Nghilgwri. Mi fydd y gwersi'n dechrau mewn jysd dros wythnos, felly mae'n rhaid i mi fynd wrthi o ddifri rwan i drefnu fy mhen (a'r gwaith papur wrth cwrs) ar gyfer y noson agoriadol.

Roedd bwrdd cofrestru 'Cymraeg' un o'r brysuraf ar y noson, allan o dua saith a gynnigwyd gan y Coleg Iaith. Mi welon ni griw reit amrywiol o ddarpar dysgwyr ar rhan oedran a chefndir, hyd yn oed dyn o Darlington sy'n aros yn lleol trwy'r wythnos o'herwydd gwaith. Gafodd ei eni yng Nghaerdydd, er gadawodd y prifddinas fel babi. Mi welon ni gwpl o hogiau ifanc hefyd sy'n awyddus i ennill pwyntiau 'brownie' gan eu cariadon o Gymru fach! Dwi'n edrych ymlaen at y dosbarth cyntaf!!

4 comments:

Emma Reese said...

Da iawn! Pa ddeunydd wyt ti'n mynd i ddefnyddio?

Linda said...

Da clywed fod gen ti nifer dda wedi cofrestru ar gyfer y dosbarthiadau.
Calonogol iawn !
Lwc dda i ti...

neil wyn said...

Diolch am y neges Linda. Emma, dyni'n defnyddio a dilyn yn fras 'Cwrs Mynediad', cwrs sy'n cael ei defnyddio'n eang yng Nghymru ymhlith oedolion yn ôl pob son. Does dim rhaid i mi gadw at y cwrs hon ond mae'n well gen i ddilyn cyngor y tiwtor arall sy'n gwneud flwyddyn 2. Wna i adrodd hanes y noson gyntaf fan hyn siwr o fod!

Corndolly said...

Wyt ti'n gwybod maint dy ddosbarth eto? Mae'n wych gweld y bechgyn ifanc yn dechrau dysgu'r hen iaith i greu argraffiadau ar eu cariadon. Rheswm da iawn