Wel mae mis Medi wedi cyrraedd, a dwi'n dechrau teimlo braidd yn nerfus. O fewn cwpl o wythnosau mi ddylwn i fod yn dysgu Cwrs Mynediad, yma yng Nghilgwri, hynny yw os mai digon yn troi i fyny i gofrestru. Dros y cwpl o flynyddoedd diwetha, yn ôl pob son mae'r niferoedd wedi bod yn ddigon iach, ond gawn ni weld. Er fy nerfau, dwi'n edrych ymlaen at y profiad. Mae dysgu pobl sydd eisiau dysgu'n plesur pur, sy'n wahanol i rai o'r profiadau dwi wedi cael mewn colegau dros y flynyddoedd gyda 'myfyrwyr' oedd yna dim ond i wastraffu eu amser. Ar ben hynny, mae cael y cyfle i drosglwyddo ychydig o'r Gymraeg wir yn fy ngynhyrfu. Dwi wedi treulio cymaint o oriau'n astudio'r iaith 'ma, ond gŵn i mae llawer o wendidau yn fy Ngymraeg, ond dwi'n gobeithio trwy mynd yn ôl i'r dechrau cyntaf gyda'r pobl ar y cwrs, mi wna i lenwi ychydig o'r tyllau amlycaf!
Dros y wythnosau nesaf felly, mae angen i mi wneud cryn dipyn o waith paratoi ac ymarfer i'r her i ddod!
4 comments:
Pob lwc i ti yn dy fenter newydd. Dw i'n cytuno. Fel arfer bydd pobl sy'n mynd i'r dosbarth nos i ddysgu Cymraeg yn gwneud hynny achos bod ganddynt llawer o ddiddordeb yn y pwnc. Mae'n siŵr bod dy frwdfrydedd yn bwysicach na un rhywbeth arall.
Pob lwc. Rydw i'n siwr y bydd yna ddigon o bobl. Y her yw annog y bobl hyn i ddal ati. A dweud y gwir, er rydw i'n mwynhau'r iaith wn i ddim a allwn ei haddysgu.
Cyffroes iawn! Gad i ni wybod be ddigwyddith yn y dosbarth.
Diolch yn fawr i bawb am sylwadau cefnogol, dwi'n sicr o adrodd yr hanes yma, 'gwyliwch y gofod hwn' fel mae nhw'n dweud...
Post a Comment