18.1.09

'm 'n ddigidol bucheddu...

Wrth crwydro'r we'n chwilio am feddalwedd er mwyn gwella cyflwr sal fy nghluniadur, mi ddes i o hyd i safle 'My Digital Life'. Wrth sylwi teclyn cyfiethu fel rhan y wefan, mi gliciais ar y ddraig goch fechan ymhlith nifer o faneri dim ond trwy diddordeb a dweud y gwir. Yr hyn a welais ymddangos o flaen fy llygaid oedd y Cymraeg rhyfeddaf a welais i erioed. Mi gafodd 'My Digital Life' ei trosglwyddo i -'M 'N Ddigidol Bucheddu- a 'Tune up Utility' i 'Alaw i fyny Utility'! Roedd y tudalen i gyd yn llanast o eiriau, cymysgedd o Saesneg a Chymraeg heb gystrawen dealladwy hyd a welaf i. Dwi wedi darllen ambell i ganlyniad o beriant cyfieithu o'r blaen, ond ni faswn i wedi coelio pa mor wael a gallen nhw bod hed baglu dros y wefan honno, anhygoel...

1 comment:

Dafydd Tomos said...

Mae nhw'n defnyddio peiriant cyfieithu InterTran sef yr union yr un peiriant sydd wedi achosi gymaint o gyfieithiadau gwael dros y blynyddoedd (mae'r collnodau ymhobman yn tipyn o gliw).