3.1.09

Rhewi...

Dyni wedi bod yn mwynhau'r tywydd rhewllyd dros y Nadolig a dweud y gwir. Dyni wedi bod yn mynd am dro efo'r ci pob dydd, y merch (a finnau!) yn cael llawer o hwyl yn chwarae ar y pyllau beision sydd wedi troi fel 'gylchoedd sglefrio'. Mae'r coed wedi bod yn andros o hardd, yn wyn i gyd, eu brigau noeth yn dal y barrug bregus trwy gydol y dydd. Ond glywais i ochr arall yr hanes ar y newyddion y bore 'ma, un o'n i heb meddwl amdanhi mewn gwirionydd, efo'r Prif Wenidog (mr Brown) yn galw am ysbryd 'y blitz' er mwyn helpu'r henoed goroesi'r oerni 'ma. Yn ôl rhagolygon y tywydd mi fydd hi'n rhewi am ychydig o ddyddiau i ddod, ac mae hynny'y newyddion ddrwg i ganran sylweddol, hynny yw'r rhai sy'n poeni am dalu biliau tanwydd, y rhai sy'n treulio amser hir yn eu tai, iddyn nhw does fawr o hwyl i gael yn yr oerni 'swn i'n meddwl. Siwr o fod mi wna i newid fy meddwl hefyd wrth i mi ddychweled i'r oergell dwi'n ei alw'n weithdy bore dydd llun...

1 comment:

Corndolly said...

Dw i'n cytuno, Neil mae 'na ddwy ochr i bob cwmwl - Dw i'n hoffi gweld y barrug ar y canghennau noeth ac mae hyn yn disgrifio heddiw yn perffaith yma - ond mae hi'n oer iawn. Diolch byth am y gwres canolog a'r 'dwbl glazing. Mae mam fy nghwr yn byw efo ni, ac mae hi'n 92 oed ond mae 'na hen wraig sy'n byw mewn bwthyn sy wedi'i rhentu, heb dwbl glazing a gwres canolog. Rhaid iddi hi ddibynnu ar dân agored. Dw i'n deall am beth wyt ti'n sôn.