Mi glywais awdur llyfr newydd 'Across the Park' yn siarad y bore 'ma ar raglen pêl-droed 'Ar y Marc'. Mae ei lyfr o'n dilyn y cysylltiadau rhwng clybiau pêldroed dinas Lerpwl sef Everton a Lerpwl, y dau clwb yn sefyll wrth ymyl Parc Stanley. Peter Lupson ydy ewn yr awdur a siaradodd Gymraeg clir a chywir, er nad oedd on swnio cweit fel brodor o Gymru. Cyn diwedd y cyfweliad mi holodd Dylan Jones am y ffaith ei fod o'n siarad Cymraeg. Mi ddwedodd fod ei wraig yn Gymraes Cymraeg o Fynydd Llandegai ger Fangor, ac mi ddysgodd y Gymraeg er mwyn siarad a'u teulu hi.
Nes ymlaen wnes i ei 'ooglo', a des i o hyd i fwy o wybodaeth amdanaf. Gafodd ei eni yn Awstria cyn symud i Loegr fel hogyn fach, mae o'n gweithio fel athro Saesneg mewn ysgol preifat dim ond cwpl o filltiroedd o fan'ma yn Hoylake, ac mae o'n byw yng Nghilgwri hefyd. Mae o wedi sgwennu llyfrau ar gyfer dysgwyr o'r Almaeneg a Ffrangeg, felly mae o'n dipyn o ieithydd. Ar ôl wneud yr ymchwil ar y we, ro'n i yn ein siop lyfrau lleol a welais i boster yn hysbysebu 'darlith' ganddo fo yn y siop am ei lyfr newydd. Mi faswn i wedi hoffi mynd, ond yn anffodus mae'n digwydd ar yr un noson ag fy nhosbarth nos, a mi fasai hi'n dynn iawn i gyraedd y dosbarth mewn pryd. Weithiau dach chi'n darganfod bobl sy'n siarad yr iaith 'ma yn hollol annisgwyl, sy'n wastad yn teimlad braf.
2 comments:
Diawch, stori ddifyr.
Efallai edrychaf os oes modd gwrando ar y rhaglen eto ar i-player/gwefan C2. Efallai mod i wedi sôn ar y blog yma o'r blaen, ond bues i a thocyn tymor i Goodison Park am dri tymor ar ddechrau'r '90au.
Dwi'n cael y rhaglen fel podlediad hefyd, sy'n handi weithaiau os nad ydwi'n deffro mewn pryd!
Post a Comment