Ges i fy nennu ddoe gan y ragluniau i raglen S4C o'r enw 'Trip yr Ysgol Cymraeg', a gafodd ei cyflwyno gan ganolwr Cymru Nicky Robinson, sef maswr y Gleision Caerdydd. Mi ddilynodd y rhaglen hanes addysg cyfrwng Gymraeg dros Cymru gyfan, ond yn bennaf lawr yn y de dwyrain lle gafodd Nicky ei eni a'i fagu ar aelwyd di-gymraeg.
Roedd 'na wendidau yn y rhaglen yn sicr, a gafodd ei chyd-cyflwyno gan griw o chweched dosbarth ysgol Bro Morgannwg yn y Barri. Mae'n amlwg er enghraifft nad ydy'r rhan mwyaf o'r disgyblion yn defnyddio llawer o Gymraeg tu allan i stafell dosbarth yr ysgol, sydd ddim mewn gwirionedd yn syndod, mewn ardal mor Saesneg ar ran iaith. Ond efo arweinyddiaeth ac ysbrydoliaeth Nicky Robinson, mi lwyddon nhw greu rhaglen diddorol am bwnc sy'n falle braidd yn 'sych' ar y wyneb. Mi deithion nhw ar draws Cymru gyfan, yn darganfod hanes gynnar addysg cyfrwng Gymraeg yn y llyfrgell genedlaethol,yn ymweled â nifer o ysgolion a chyn-ysgolion, gan cynnwys Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy, lle cawson nhw cyfle cyfnewid profiadau efo cyd disgblion yn fana. Mi aeth Nicky yn ôl i'w gartref i gyflwno ei fam, wnath penderfynu anfon ei hogiau i ysgol Gymraeg a hithau yn tarddu o Middlsborough. Erbyn hyn mae Mrs Robinson wedi dysgu Cymraeg ei hun, a bellach mae hi'n dysgu P.E. trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyn ddiwedd y rhaglen gafodd criw Ysgol Bro Morgannwg cyfle i cyfweled â'r prif weinidog Rhodri Morgan o flaen y Senedd, ac yntau'n un o ddisgyblion cynnharach y meithinfra Cymraeg cyntaf yng Nghaerdydd. Erbyn hyn roedd eu hyder nhw'n codi, a wnaethon nhw swyddogaeth dda o holi gwleiddydd amlycaf Cymru.
Diweddglo'r rhaglen oedd y to ifanc eu hun yn dweud eu dweud am yr hyn mae'r Gymraeg yn golygu iddyn nhw, a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol, ac roedd yn ymatebion cadarnhaol yn y bon. Rhaid dweud, efo cymeriadau ysbrydoledig megis Nicky Robinson yn hybu'r iaith ac yn ymfalchio ynddi hi, mae'n amlwg bod yr arbrawf o addysg cyfrwng Cymraeg yn y de wedi bod yn llwyddiant. Wedi dweud hynny, does fawr o dystiolaeth i ddangos bod cynllun uchelgeisiol y cynulliad i greu Cymru dwyieithog yn debyg o gael ei gwireddu yn y dyfodol agos. Mae'r targed afrealistig (heb arrianu yn sylweddol) o weld cynydd o 5 y cant yn y nifer o siaradwyr Cymraeg erbyn 2011 yn sicr o fethu, ond er hynny mi wnath y rhaglen cynnig resymau am obaith.
4 comments:
Roedd yn raglen reit da. Ychydig yn arwynebol oedd o, ond fel ti'n dweud, efallai roedd yn ffordd da o gyflwyno pwnc a allai fod wed bod yn drwm/sych.
Tydy gweld pa mor anaturiol oedd siarad Cymraeg yn ymddangos i rai o'r Barri ddim yn syndod chwaityh o ystyried natur ieithyddol yr ardal, ac efallai gellid fod gofyn a oes modd cynhyrchu siaradwyr Cymraeg drwy addysg Gyraeg yn unig?
Mae'n anodd iddynt weld 'pwynt' yr iaith' (fel holodd un) gan fod dim cyfleodd/annogaeth i ddefnyddio'r iaith tu allan i'r wers. hyd yn oed os yw'r ysgl neu'r urdd yn trefnu rhywbeth tu allan i'r oriau ysgol - mae'n debyg bydd pethau felly'n turn off.
Fel pan oeddwn i'n yn yr ysgol, doeddynt ddim yn ymwybodol gwbwl a rapwyr Cymraeg neu unrhyw beth cyfoes a perthnasol iddyn nhw sy'n digwydd drwy gyfrwng yr iaith - ond byddai hyn yn bwnc ar gyfer rhaglen yndodi hun.
Ag eithrio dangos rheini Ysgol Glantaf (pan oedd yn ysgol cyfrwng Saeseng) yn gwrthdystio yn erbyn ei newid yn ysgol Cymraeg, method y rhaglen a cyfle pa mor anodd oedd y frwydr mewn gwirionedd. Hyd yn oed pan nad ydy ysgol newydd Gymraeg yn golygu rhywbeth mor ddadleuol a chau ysgol Saesneg, mae Awdurdodau Addysg yn Nghymru yn dal i tan-amcangyfrif y galw sydd yna am addysg Gymraeg hyd yn oed heddiw. Mae'n nhw'n meddwl taw 'ffad' ydi o.
Hefyd, tydy rhai pobl ddim y licio'r syniad o addysg Gymraeg full stop. Galwodd fy nghynghorydd lleol y syniad o greu ysgol Cymraeg newydd ar safle ysgol Saesneg yn Ethnic Ceansing - adeiladol iawn!
Diolch am y sylwadau Rhys, diddorol iawn. Mae'n teimlo'n od weithiau, mewn cwisiau draw yn Yr Wyddgrug, fi, sef dysgwr o Loegr canol oed, yn gwybod mwy or atebion i ambell i gwestiwn am gerddoriaeth cyfoes Cymraeg.. diolch i'r ffaith mae'n siwr mod i'n gwrando ar gymaint o radio Cymru a tydyn nhw mwy na debyg dim...
Mae'n debyg bod dy tolerance level di tuag at Radio Cymru yn anaturiol o uchel - all y mwyafrif o siaradwyr Cymraeg ddim dioddef mwy na 10 munud ar y tro!
Mae C2 wedi ei anelu at bobl ifanc wrth gwrs, ond mewn gwirionedd rhwng 8 a 11 o'r gloch y nos yw'r union amser na fydd pobl ifanc yn eistedd lawr i wrando ar radio (rhy brysur yn trio prynnu aolchohol o'r offi lleol mwy na thebyg)
Petai nhw'n ei droi ymlaen ben bore, ganol dydd neu diwedd p'nawn, does dim rhyfedd iddynt feddwl mai mond cerddoriaeth naff canol ffordd sydd i'w gael yn Gymraeg.
Soniodd Rhodri Morgan bod 'normaleiddio'r iaith' yn bwysig, ac mae o'n hollol gywir. Ar hyn o bryd, tydi Radio Cymru er enghriafft ddim yn rhoi'r argraff i bobl ifanc bod siaradwyr Cymraeg yn normal o bell ffordd ;-)
Yn anffodus mae fy 'tollerance' lefel i wedi cael ei gwthio i'r eithaf erbyn hyn! Ro'n i'n gallu gwrthsefyll dwy awr o Jonsi yn y boreau rhywsut neu gilydd, ond ers iddo fo symud i'r p'nawn mae'n rhaid i mi gyfadde mod i'n ffindio fy hun yn ymestyn at y botwm OFF tua hanner wedi dau. Nid yn unig ydy o'n chwarae cerddoriaeth Cymraeg naff, mae o'n chwarae stwff gwael Saesneg hefyd. Mae'n ymddangos mae gynno fo lot mwy o ryddhad i ddewis ei gerddoriaeth ei hun y dyddiau yma.. dewch yn ôl Dylan a Meinir, o leia roedd gan y gwrandawyr y dewis yn y dyddiau euraidd yna ;)
Post a Comment