21.4.09

Bathodynau a ballu....

Wedi tair wythnos rhwng y dosbarth olaf a'r un heno, o'n i'n falch o weld ystafell llawn o fy mlaen. Wedi tipyn bach o adolygu o'r pethau ro'n ni'n gwneud cyn y Pasg, mi aethon ni ymlaen i ddechrau y 'gorffenol', hynny yw 'wnes i' ac ati. Mi wnath David JOnes awgrymu dylsen ni'n dilyn Cymraeg y cwrslyfr, hynny yw 'mi es i' yn hytrach na 'wnes i fynd', rhywbeth dwi'n clywed fy hun yn dweud yn amlach y dyddiau yna ( a ffurf a defnyddwyd yn 'Y Big Welsh Challenge'), felly mae'n well i mi ddilyn ei gyngor, gan fod 'na siawns mi fydd fy nhosbarth i'n cael eu tiwtora ganddo fo yn yr ail flwyddyn!

Mi gyflwynais rhai o wersi 'Say omething in Welsh' yn ystod y nos, ac mae'n rhaid i mi ddweud mi gawson nhw dderbyniad weddol dda. Dwi'n sicr o fynd yn ôl atyn nhw mewn gwersi eraill, a gobeithio mi fydd rhai yn y dosbarth yn eu defnyddio rhwng y dosbarthiadau.

Mi gafodd pawb yn y dosbarth un or bathodynau 'dwi'n dysgu Cymraeg' newydd, felly gawn ni weld os mae nhw'n gwneud unrhyw gwahaniaeth i'r rhai sydd wedi trio (heb fawr o lwyddiant) defnyddio eu Cymraeg efo Cymry Cymraeg....

4 comments:

teod-karv said...

Y Cymry Cymraeg yn troi i'r Saesneg, gan dybio bod hynny'n haws i bawb? Y dysgwyr yn methu deall iaith lafar gyflym a thafodieithol?

Dyna sut mae hi yng Nghymru - rhaid wynebu hynny a pheidio â breuddwydio am wlad unaith. Mae problemau o'r math hwn o hyd ac o hyd, ond rhaid i'r dysgwr fod yn bengaled ac yn benderfynol. Dyfal donc a dyr y garreg!

Mae modd torri drwodd ond rhaid bod fel y pry' copyn pan fydd rhywun yn dinistrio ei we...

Emma Reese said...

Dim ond Cymraeg a Japaneg bydda i'n siarad â siaradwyr Cymraeg yn yr haf ma.

Mae angen eu help ar y dysgwyr hefyd. Siaradwch Gymraeg â nhw, os gwelch yn dda er na wnân nhw ddallt popeth. Siaradwch yn araf os bydd angen.

Corndolly said...

Dw i'n cofio ar ôl i mi ddechrau siarad (trwy e-bost) ag Emma, wnes i ddim sylweddoli ei bod hi'n gallu siarad yn Saesneg tan ar ôl o leiaf tri mis, felly, ysgrifennais i bopeth ati hi yn y Gymraeg.

Felly, dim ond gan bod y Cymry yn meddwl bod y dysgwr yn siarad yn Saesneg hefyd y bydden nhw'n troi i Saesneg os bydd y sgwrs yn anodd.

Efallai mae angen arnon ni i gyd i wisgo bathodyn sy'n dweud 'Dw i ddim yn siarad Saesneg' yn lle o un sy'n dweud 'Dw i'n dysgu Cymraeg' !!

neil wyn said...

Dwi'n licio'r syniad o fathodyn 'dwi ddim yn siarad Saesneg'!

Mae'r diffyg 'angen' cyfathrebu trwy cyfrwng y Gymraeg yn problem sy'n amharu efo ymdrechion sawl dysgwr, dwn i ddim beth yw'r ateb, ond dwi'n sicr mae'r gwaith a wnaethpwyd gan Mentrau Iaith, Cyd, ac ati'n help mawr ynglŷn â dod â phobl ynghyd.