28.4.09

Cymhlethdodau....

Mae hi wedi bod yn wythnos eitha hectig a dweud a gwir, a dwi ddim wedi cael llawer o amser i flogio neu gwneud dim byd ar wahan i weithio a thrio cefnogi fy ngwraig, am fod ei thad hi wedi bod yn yr ysbyty yn ddifrifol sal. Erbyn hyn mae o wedi setlo ac mae pethau'n edrych ychydig yn well, ond mae o'n sicr o fod yna am sbel i ddod, felly mi fydd 'na lawer o yn ôl ac ymlaen i wneud dros y wythnosau nesaf hefyd. Mae'n penblwydd wyth deg fy nhad dydd iau hefyd, felly dani'n edrych ymlaen at bryd o fwyd mewn gwesty lleol er mwyn helpu fo ddathlu achlysur mor arbennig.

Wnes i fy nosbarth nos heno, gobeithio wnes i'n o lew, roeddwn i heb wneud mawr o ddarparu. Mae'r ffaith bod y cwrslyfr yn dysgu 'es i, ces i, ddes i, ac ati, a'r Big Welsh Challenge yn defnyddio 'wnes i fynd, wnes i gael, wnes i ddod' wedi peri ychydig o dryswch, heb son am y ffaith bod un o'r dosbarth yn dysgu'r cwrs OU sy'n defnyddio'r ffurf mwy ffurfiol i fynegi'r gorffenol. Wnes i ddim meiddio crybwyll bod 'na ffordd arall, sef 'ddaru', o newid berf i'r gorffenol! Mae'r hen iaith yma yn gallu eich drysu weithiau tydy! er mae Saesneg yr un mor gymhleth mae'n siwr, wel dyna be dwi'n dweud i'r dosbarth, er dwi heb eu argyhoeddi nhw o hynny eto!

4 comments:

Emma Reese said...

Gobeithio y bydd dy dad yng-nghyfraith yn gwella'n fuan.

Diddorol gweld ti'n sôn am y peth dw i newydd drafod efo fy ffrind, h.y. amrywiaeth o ffurfiau Cymraeg sy'n achosi problemau i ddysgwyr pan wnawn ni drio siarad.

neil wyn said...

Mae'r gwahaniaeth rhwng yr iaith ysgrifenedig ar iaith lafar yn fy mhoeni hefyd, ar ran dysgu'r dosbarth nos beth bynnag.

Wedi dweud hynny mae 'na ddosbarth Tseinieg ar yr un noson (dwn i ddim pa iaith o Tseina rhaid i mi gyfadde), iaith syn anoddach o lawer i berson uniaith Saesneg, faswn i'n meddwl, felly dylswn i ddim cwyno gormod!!

Corndolly said...

Dw i'n teimlo'n drosti ti ! Roedd rhaid i mi fynd yn ôl ac ymlaen i'r ysbyty pan oedd fy mam yn farw. Gobeithio bydd o'n wella'n fuan.

Dysgais i'r ddwy ffurf yn fy nosbarth, ond galwodd y tiwtor y ffurf 'mi wnes i' at ati 'the umbrella form' lle oedden ni'n gallu defnyddio'r ferf efo fo sef 'Mi wnes i fynd' ac wedyn esboniodd o am y ffurf cryno nes ymlaen. Wnaeth o'r un peth efo'r dyfodol hefyd. Dw i ddim yn credu bod 'na lawer ohonon ni wedi cael ein drysu gormod. Ond 'daru mi' Wel rhywbeth arall ydy 'daru mi' haha - well i ti beidio â sôn amdani eto.

neil wyn said...

Dwin licio hynny, y ffurf 'umbarella', mae'n crynhoi'r holl parablu dwi wedi bod yn gwneud ynglŷn â hyn yn perffaith, wna i gyflwyno'r term wythnos nesa!

Mae fy Mam a Tad yn defnyddio 'ddaru'(tydy fy nhad ddim yn hollol rhugl, er mae o'n cofio cryn dipyn o'r iaith o'i blentyndod yn Nhyffryn Clwyd), yn ogystal a rhai cymry dwi'n nabod yn Sir y Fflint, felly dylsai hi fod yn ffurf naturiol i mi i ddefnyddio, ond rhywsut neu gilydd dwi heb ei mabwysiadu. Erbyn hyn mae 'wnes i fynd' ac ati wedi cymryd drosodd ar ran fy Nghymraeg lafar!