3.4.09

mater o Farn....

Ges i alwad ffôn gan Alaw y bore 'ma, cyn swyddog Menter Iaith Sir y Fflint sy'n bellach yn gweithio i 'Momentwm', cwmni cysylltiadau cyhoeddus. Roedd Alaw yn hel tanysgrifwyr i gylchgrawn 'Barn', swydd eithaf annodd mi faswn i'n meddwl, yn enwedig o ystyried y sefyllfa arianol sydd ohonyn ni. Fel mae'n digwydd, ro'n i wedi bod yn ystyried tanysgrifio i 'Barn' ers sbel, ar ôl i mi ddarllen mai Chris Cope yn un o'u cyfranwyr cyson, yn ogystal a Gareth Miles ac Elin Llwyd Morgan, ac fel a bwyntiodd allan Alaw, mae'n annodd dod o hyd i gylchgronnau o'r fath yma yn Lloegr, felly mae tanysgrifio'n gwneud synnwyr. Felly edrychaf ymlaen at dderbyn fy nghopi cyntaf cyn bo hir, ac i ehangu fy mhrofiad o ddarllen yn y Gymraeg....

4 comments:

Chris Cope said...

A bod yn onest, dwi'n meddwl bod y safon o'r cylchgrawn wedi gwella yn ddiweddar. Wrth ddweud "safon," rydw i'n cyfeirio at olwg, wrth gwrs. Mae'n edrych yn fwy proffesiynol. Y safon ysgrifennu ar y llaw arall.... Ofnadwy. Yn enwedig y colofnydd 'na o America.

Corndolly said...

Wnei di basio rhif ffôn Alaw ymlaen ataf. Hoffwn i danysgrifio'r cylchgrawn. Dôn i ddim yn sylw bod y cylchgrawn yn dal ar gael bod yn onest.

Dyfrig said...

Mae posib tanysgrifio drwy ymweld a www.cylchgrawnbarn.info Ar y funud, mae'n rhaid llawrlwytho PDF o'r ffurflen danysgrifio, a'i phostio i Gaerfyrddin, ynghyd a siec. Ond dwi'n gobeithio y bydd modd i bobl danysgrifio trwy Paypal yn fuan iawn. Hwyl,
Dyfrig

neil wyn said...

Diolch am y wybodaeth a'r sylwadau ynglŷn â 'Barn'. Ro, wna i yrru'r rhif ffôn atat ti er mwyn i ti gael mwy o wybodaeth gan Alaw.