Mi wnaeth Gary Owen tipyn o gamgymeriad heno wrth darllen bwletin y newyddion. Tra ddarllen y canlyniadau chwaraeon, dyma fo'n dweud "Huddersfield six" cyn cywiro ei hun yn sydyn iawn a dweud "chwech". Mae'n gwneud i mi deimlo'n well i glywed darlledwr mor brofiadol cymysgu ei ieithoedd fel hyn, rhywbeth dwi'n ffindio fy hun yn gwneud o dro i dro. Yn ddiweddar dwi wedi clywed fy hun yn dweud 'neges' yn hytrach na 'message' tra siarad Saesneg am rhyw rheswm...
2 comments:
Dwi'n cytuno, Neil! Ond i mi, mae'n wych i gymysgu'r ieithoedd. Mae'n bron fel trydedd iaith - Cymraesneg yr enghraifft. Rhaid i fi fod yn ddifrifol am eiliad - dw i'n credu fod hyn yn ddangos bod yr ymennydd yn gweithio ac yn meddwl yn y ddwy iaith. Wel dyna beth ddywedodd rhywun i mi pan ddechreuais i siarad yn Gymraesneg !!
Yn aml iawn fedra i ddim cofio geirau Saesneg pan siarada i â rhywun. Dim ond rhai Cymraeg a ddaith i fy mhen.
Post a Comment