4.5.09

Carnedd Gwenllian

Mae'n priodol falle bod un o'r copaoedd mwyaf anghysbell y Gogledd newydd ei ail-enwi ar ôl cymeriad mor drychinebus a'r Tywysoges Gwenllian. Wedi ei amgylchynu gan ei perthnasau, Llywelyn a Dafydd (yn ôl pob son), mi fydd yr enw Gwenllian yn sefyll yn cyfforddus ymhlith mynyddoedd y Carneddau. Dwi'n cofio noson o wersylla efo ffrind yn fy arddegau wrth ymyl rhaedr Abergwyngregyn , efo'r bwriad o gyrraedd copa Carnedd Uchaf/Gwenllian (wedi methu cyrraedd y copa o ochr Llyn Ogwen cwpl o weithiau oherwydd diffyg golau). Roedd hi'n daith eitha ddiflas mewn gwirionedd, ar ddiwrnod niwlog a gwlyb, a dim ond er mwyn gallu dweud roedden ni wedi cwblhau'r copaoedd 3000' i gyd. Mi lwyddon ni, a dwi'n falch o hynny rwan, ond ar y pryd do'n i ddim cweit yr un mor benderfynol o gwblhau'r 'set' a fy nghyfaill.

Mae hanes Cymru fel unrhyw gwlad yn llawn anghyfiawnderau a chreulondeb, ond yn ôl yr hanes, mi ddiodefodd teulu 'Llywelyn ap Gruffudd' (Llywelyn ein Llyw Olaf) yn fawr o dan ddwylaw Edward 1af er gwaethaf cytundeb rhwng Brenin Lloegr a Llywelyn ychydig o flynyddoedd yn gynt. Wedi marwolaeth ei mam tra roi genedigaeth i'w unig plentyn, mi gollodd y baban Gwenllian ei thad yn ystod brwydyr yng Nghilmeri, ac wedyn ei ewythr a gwarchodwr Dafydd, brawd Llywelyn a gafodd ei dal gan Fyddin Edwrard cyn cael ei ddeddfrydu i farwolaeth erchyll gan y Brenin hwnnw. Mi dreuliodd meibion Dafydd gweddill eu bywydau o dan glo, a chipiodd Edward y teitl Tywysog Cymru a roddodd i'w fab, ac yn ei tro wrth cwrs i'n Siarles annwyl ni! Fel merch i Llywelyn, a thywysoges Cymru, mi gynhyrchiolodd ffrwthlondeb potensial Gwenllian bygythiad i Frenhiniaeth Lloegr, felly trefnodd Edward iddi cael ei anfon i leiandy Sempringham yn Swydd Lincoln lle treuliodd gweddill ei bywyd, cyn farw yna yn 54 oed. Gafodd hi ddim dewis i fyw bywyd 'normal', neu fagu plant, neu hyd yn oed siarad iaith ei thad. Yn ôl y cofnodion y lleiandy mi ysgrifenodd hi ei henw ei hun yn 'Wencilane' a 'Wentilane'.

Mae'n hanes llawn dristwch ac yn werth o leiaf un fynydd! tybed be fasai Wencilane yn meddwl o'r ymgyrch i enwi un o brif copaoedd tywysogaeth ei thad ar ei hôl....tybed yn wir

No comments: