18.5.09

Golwg ar Olwg

Wel dwi wedi llwyddo mynd ar wefan Golwg360 ychydig o weithiau hyd yn hyn, er mae 'na elfennau o'r tudalennau sy'n ar goll o hyd, o leia dwi'n cymryd bod y blychau gwag coch i fod yn rhywbeth ar wahan i ... wel blychau gwag coch! Dwi ddim yn cyfarwydd â'r ochr technolegol ynglŷn â'r fathau gwahanol o wefanau, ond un o'r diffygion amlycach hyd a welaf i yw'r delwedd (neu ddiffyg delwedd...). Cymerwch gwefannau'r BBC neu S4C (dwi'n gwybod mae gynnon nhw pocedi dwfn, ond mae Golwg wedi derbyn swm sylweddol er mwyn datblygu'r gwefan hon), mae gynnyn nhw 'golygion' cryf a phendant, mae nhw yn dennu rhywun mewn i chwilio trwy'r tudelannau. Mae nifer o'r lluniau ar wefan Golwg360 yn eitha wan (sbiwch ar y stori am addysg cyfrwng Cymraeg), ac mae'r gymysgedd o ffontydd yn gwneud i'r peth edrych yn fler a heb strwythyr. Mae lliw cefndirol y blychau testun yn rhy olau hefyd, mae'n edrych yn 'wishy washy' ar y sgrîn.

Mae 'na nifer o gryfderau hefyd mae'n rhaid dweud, 'Lle Pawb' a'r Calendr er enghraifft, ond mae'r prosiect yma wedi costio 'Y Byd' cofiwch, onid ydyn ni'n haeddu rhywbeth mwy proffesional?

Mi wnes i glywed Dylan Iorwerth (Golygydd Golwg) yn ymateb cwestiynau ynglŷn â'r wefan amser cinio, a chwarae teg iddo fo, roedd o'n barod i wrando. Mi fydd yr ochr technolegol yn cael ei datrys gobeithio ac mi fydd y newyddiaduriaeth yn gwella hefydb gobeithio, ond mae'n siomedig mi gafodd y peth ei lansio heb olwg cryf, rhywbeth roedd gan cynllun papur newydd 'Y Byd' hyd yn oed heb rifyn erioed yn cael ei cyhoeddi.

2 comments:

Corndolly said...

Beth sy'n achosi problemau i mi ar Golwg 360 ydy y diffyg o 'troi vocab ymlaen' sydd ar gael wrth ddarllen y newyddion ar wefan BBC. Dwi'n gwybod mai nod Golwg 360 ydy darparu wefan i bobl sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, ond gobeithio bydd llawer o ddysgwyr yn ei darllen hefyd. Ond ar ôl dreulio dipyn o amser arni, es i i'r BBC i ddarllen y newyddion. Sori !

neil wyn said...

Dwi'n cytuno, mae'r gwasanaeth 'Geirfa' yn ardderchog ar safleoedd y BBC. Mae gan 'Golwg360' llawer o waith i wneud i gystadlu.