10.5.09

'Patsh' Russell.....

Gwrandawais ar raglen Beti a'i Phobl yr wythnos yma i glywed Russell Jones y garddiwr hoffus o Rosgadfan yn son am ei fywyd a'i batsh enwog yn yr un un pentref. Seren sioe 'Byw yn yr Ardd' yw Russel, nid y fath o raglen mi faswn i'n ei gwylio fel arfer, ond mae'r boi yma yn gymeriad unigryw sy'n werth ei wylio beth bynnag, sdim ots am beth yw'r pwnc.

Ges i fy synnu i ddysgu am ddidordebau eraill Russell, hynny yw cerdd dant, dawnsio llinell, ac ieir. Mae ei frwdrydedd dros garddio yn haentus. Er does fawr o siawns o finnau'n saethu allan i'r ardd i wneud tipyn o 'falu ac yn palu' (torri'r lawnt a'r gwrychoedd yw cyfanswm fy nghampau i'n yr ardd fel arfer), ond pe tasai rhywun rhywbryd i lwyddo fy narbwyllo wneud hynny, mi fasai'r person hwnnw yn debyg o fod yn berson fel Russel Jones!

Mor Gymreig a Chymraeg yw'r garddwr glen o Rosgadfan, ges i fy siomi clywed ganddo fo sut mae pentref anhysbys megis hwn hyd yn oed, mewn ardal Cymraeg ei hiaith, yn colli conglfeini'r cymuned. Efo'r capeli, yr ysgol a'r siopau i gyd wedi cau, dim ond un dafarn sydd ar ôl i'r bentrefwyr galw'n lle i'r cymuned. Mae sawl tŷ fferm yn y bro wedi cael eu prynu gan 'bobl dŵad sy'n reteirio i'r ardal' heb fawr o ddealltwriaeth am y cymuned neu ddiwylliant Cymraeg yr ardal, yn ôl Russel.
Does dim casindeb yng ngheiriau Russell Jones, dim ond tristwch. Mae cefn gwlad Cymru yn newid yn sydyn iawn mae'n amlwg, ond efo cymeriadau mor liwgar a brwdfrydig a'r boi hwn yna i wneud gwahaniaeth, falle mae 'na obaith am ddyfodol gwell...

4 comments:

Corndolly said...

Dw i'n hoff iawn o wylio Russell Jones ar 'Byw yn yr ardd' Ydy, mae o'n dipyn o gymeriad, ond beth sy'n achosi dipyn o syndod i mi ydy fy ngŵr, heb fod yn arddwr, sy'n hoff iawn o wylio'r rhaglen a Russell, (efo is-deitlau rhaid ddweud yma). Mae Alan yn mwynhau 'naturoliaeth' Russell neu ei ffordd o ymddangos yn hollol gyfforddus efo ei rôl fel 'seren teledu'. Dyna beth dw i'n hoffi am deledu Cymreig. Dydy y sêr ddim yn actio fel 'rhywun' neilltuol na pherson enwog.

neil wyn said...

Cytuno'n llwyr, mae'n agosach aton ni fel petai (dwi'n trio cyfleu 'approachable' yn fan'na), er mae'n sicr mi fydd 'na ambell i eithriad! Mae 'na rhywbeth mwy cartrefol am raglenni Cymraeg, a dwi ddim yn golygu hyn mewn ffordd drwg, mae 'na nifer o raglenni gwerth eu gweld ar y gwasanaeth.

Dwi'n cofio e-bostio Huw Stevens (Radio Cymru a Radio 1 cofiwch! DJ go iawn ydy hwnnw!) un noson i ddweud sut gymaint o'n i'n mwynhau ei ddewis o gerddoriaeth, a dyma fi, cyn ddiwedd y rhaglen yn cael ymateb ganndo fo'n dweud diolch am y sylwadau. Dyna be dwi'n galw gwasanaeth da :)

neil wyn said...
This comment has been removed by the author.
Emma Reese said...

Mi wnes i wrando ar y rhaglen hon hefyd. Yr hyn a wnaeth ddal fy sylw oedd fod o'n hoffi dawnio llinell. Roedd o'n mynd i sesiwn yng Nghaernarfon. Ella bod 'na un yn dal yno. Baswn i isio ymuno â hi yn yr haf os felly. Dw i'n licio ei acen hefyd!