7.8.09
at y mynyddoedd.....
Dyni am ffoi ffiniau cyfyngiedig y penrhyn 'ma am ychydig o ddyddiau, ac anelu at y mynyddoedd, hynny yw prydferthwch Eryri. Mi cawsom ni ychydig o ddyddiau yna y llynedd mewn bwthyn sy'n perthyn i gyfeillion i ni, ac mae nhw wedi mynnu ein bod ni'n dychweled am wythnos dros y haf, unwaith eto yn rhad ac am ddim, cynnig andros o hael. Gobeithio gawn ni ddiwrnod braf i ddringo'r Wyddfa, ac mi fasai gwibdaith lawr i Ben Llŷn yn plesio Jill er mwyn ail-ymweled ag ambell i draeth mi droediodd fel plentyn. Mae muriau mawreddog Castell Caernarfon hefyd yn sicr o dynnu sylw fy merch, na chofiaf y tro diwetha i mi grwydro tu mewn iddynt, mwy na chwater canrif mae'n siwr!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
3 comments:
Sut roedd y taith mynyddoedd? Diddorol iawn darllen am y bwthyn os r'wyt ti wedi gweld fy mhost am fwthyn bach dw i'n adeiladu yn y cefn gwlad.
Wnes i ddim mynd i Eistedfordd achos fy nwraig i gen i 'swine flu'
(Probably just a bad cold of course!).
Mae'n braf iawn yn Cilgwri rwan ond roedd hi'n bwrw glaw dyma bore.
Dw'i'n mynd i weld i'r gem am Prenton Parc rwan.
Mi fydd hi'n ofnadwy o gwrs!
Hwyl.
Heia Nigel, gobeithio bod y 'fliw moch' wedi gwella rŵan. Wnes i weld Mike ac Anne yn yr Eisteddfod, dwi'n meddwl roedden nhw'n mwynhau'r profiad! (experience)
Canlyniad(result) da i Rovers heddiw! gobeithio roedd y gêm yn un cyffrous (exciting). Dwi'n gobeithio mynd i weld gêm cyn hir (soon). hwyl, Neil
Hi James, mi gawsom ni amser da diolch yn fawr iawn. Mi wna i sgwennu blog am y gwyliau yn ystod y dyddiau nesaf efo lluniau gobeithio.
Post a Comment