Dyni ar fin gadael am egwyl bach arall (yn Y Bala), a dyma fi'n ffindio fy hun heb orffen sgwennu am yr un diweddaraf!
Mae pobl yn son am Gymru fach, ac wrth cwrs gwlad cymharol bach yw hi, ond tybiwn i fod y dwediad honno'n cyfeirio at faint bydysawd y Cymry Cymraeg, rhywbeth a ddaeth yn amlycach i mi wrth i mi ddigwydd gweld dau o 'selebs' y byd darlledu/adloniant Cymraeg mewn dau lefydd gwahanol ar yr un ddiwrnod. Yn gyntaf wnaethon ni ddigwydd gweld Rhys Mwyn, cyn gitarydd bas 'Anrhefn', newyddiadurwr ac hyrwyddwr cerddoriaeth Cymreig (mae nhw'n dweud fo oedd y person wnath 'darganfod' Catatonia trwy eu harwyddo nhw i wneud eu halbwm cyntaf efo 'Sain',digwyddiad gwerth ei dathlu ar ben ei hun!). Roedd RM yn cael paned yng Nghaffi 'Pen y Ceunant' ar droed yr Wyddfa, ac yn sgwrsio'n rhwydd efo rhai o'r yfwyr eraill. Mi wnaethon ni ymuno â'r sgwrs hwnnw ac maes o law mi grybwyllais y ffaith roedd ei wyneb yn un gyfarwydd i mi o'r Daily Post. Sgwrsion ni am Lerpwl, cerddoriaeth a Phenbedw, rhywle mae o'n ymweled âg o'n wythnosol digwydd bod. Hogyn digon clen rhaid i mi ddweud, er mae o'n hoff iawn o godi gwrychyn sefydliadau Cymraeg yn ei golofn wythnosol (ond does dim byd o'i le â hynny am wn i!).
Nes ymlaen yn y diwrnod, mi wibiom ni lawr arfordir Pen Llŷn i draeth Tywyn ger Tudweiliog, traeth hyfryd tu hwnt, ac un lle treuliodd Jill a'i theulu dyddiau di-ri yn ystod gwyliau ei phlentyndod. Does fawr ddim yna yn y gaeaf, ond yn yr haf mae 'na gwt cerrig wrth ymyl y llwybyr lawr lle mae pethau 'traethlyd' yn cael eu gwerthu, yn ogysatal a fferins a diodydd (coffi ffres y dyddiau 'ma hefyd). Mae'r ffermwr lleol sy'n rhedeg gwersyllfa dros y lôn yn rhedeg y cwt, a sylwais mai cyflwynwraig o'r sioe 'Ffermio' yw'r ffermwraig mewn cwestiwn! Oherwydd hynny ges i'r hyder i siarad yng Nghymraeg efo hi, ond dwedais i ddim am nabod ei gwyneb, jysd gwennu tu mewn wnes i, wrth meddwl pa mor fach yw Cymru fach...
2 comments:
Cytuno'n llwyr. Baswn i'n dweud bod pawb yn perthyn neu nabod pawb bron ym myd Cymraeg.
Lle yn y Bala wyt ti'n mynd? Mi wnes i fwynhau cerdded o gwmpas y dref yna hefyd.
Yn aml iawn ces i fy synnu ar ôl i mi weld 'celeb' Cymreig. Does 'na ddim hysteria amdanynt o gwbl - e.e. gwelais i Dafydd Iwan gerdded o gwmpas yr Eisteddfod fel un rhywun arall, ar ei ben ei hun, ac yn mwynhau.
Post a Comment