14.8.09

Cwrw am Ddim i Bawb....

Nid darllenwr da ydwi. Prin fydda i'n cwplhau llyfr mewn llai na mis i fod yn onest. Prin iawn iawn fydda i'n darllen un o glawr i glawr o fewn tridiau. Ond dyna'n union be wnes i efo 'Cwrw am Ddim', llyfr a sgwennwyd gan ein 'cyd-flogwr Cymraeg' Chris Cope. Hanes 'Profiad Cymraeg' Chris ydy o, sef ei brofiad o ddysgu'r iaith, yn y lle gyntaf ar ben ei hun draw yn yr UDA, ac wedyn ym mhrifddinas Cymru, yn gwneud cwrs Ba yn y Gymraeg. Dwi wedi bod yn dilyn blog Cymraeg Chris ers ei ddechreuad, rhywbeth a sylweddolais wrth ddarllen post cyntaf 'Dwi eisiau bod yn Gymro' yn y llyfr. Er gwaethaf hynny mae 'Cwrw am Ddim' yn taflu golau newydd ar y taith mai Chris wedi bod arnno, o obaith 'diniwed' at anobaith di-baid. O 'eisiau bod yn Cymro' i deimlo fel rhyw atyniad ffair, neu 'Arth sy'n Dawnsio' ar gyrrion diwylliant dyrys y Cymru Cymraeg. Gallai rhywun dadlau mi wnath ei sefyllfa ei hun yn waeth, trwy dennu cyhoeddusrwydd ar gefn ei gynlluniau i symud dros y mor i astudio'r iaith lleiafrifol 'ma (sy'n anhysbys i'r rhan mwyaf o ei gydwladwyr). Ond mewn gwirionedd, heb yr 'enwogrwydd' hyn, mi allai'r fenter wedi dod i ben cyn iddi ddechrau. Ni sylweddolais (hyd yn oed trwy dilyn y blog) pa mor enfawr oedd y gwaith o drefnu symud i Gymru, a maint y dyled mi wynebodd o drwy cytuno gwneud y cwrs. Mae rhan o bersanoliaeth Chris, yr un rhan sy'n dennu cyhoeddusrwydd, sy'n mwynhau dangos ei hun (ga i fentro dweud!) yw'r un rhan a wnath iddo gredu roedd yr anterth 'ma yn posibl yn y lle cyntaf. Mae pobl mawr yn breuddwydio'n fawr, sy'n o fudd iddyn ni i gyd credaf i.

Dwi'n cofio teimlo fel taswn i'n rhannu cyffro'r taith trwy darllen hynt a helynt ei fywyd newydd yng Nghaerdydd, ond yn fuan iawn sylweddylodd dilynwyr y blog nad oedd popeth yn iawn ym myd newydd Chris. Mi newidodd 'iaith' y blog o Gymraeg 'dysgwr cyffredinol' i iaith 'safonol', braidd yn ddiarth i ddysgwr fel fi, a ches i fy estroni rhywfaint wrth i mi ymdrechu trosglwyddo'r iaith yn fy mhen. Erbyn hyn, ac ar ôl darllen y llyfr, dwi'n deall yn llwyr yr hyn oedd Chris yn ceisio gwneud. Roedd o'n boddi, ac roedd o'n ymdrechu i dod i delerau â'r iaith a ddarganfodd yn y Prifysgol, yr iaith fasai rhaid iddo fo ddysgu er mwyn arnofio yn ei fywyd academaidd newydd.

Mae rhai o'r troeon sy'n wynebu'r darllenwr yn hollol anhysgwyliedig, a dwi ddim eisiau difetha mwynhad darllenwyr eraill trwy eu datgan yn fan hyn, ond mae'n trywydd sy'n wir gwerth ei dilyn. Mi faswn i'n cymeradwyo'r llyfr i bawb. Yn ystod darllen y llyfr, roedd rhaid i mi ailadrodd ambell i darn i Jill (fel mae rhywun yn gwneud tra ddarllen llyfr da, ond rhywbeth sy'n gallu cythruddo rhywun am wn i!), ond yn y diwedd gofynodd os fydd 'na gyfieithiad Saesneg yn cael ei gyhoeddi. Dwn i ddim, ond mi fasai'n syniad da...

3 comments:

Corndolly said...

Clywais i Chris ar Iplayer heddiw fel rhan o'r rhaglen ar C2 efo Nia Medi (?) ac roedd o'n sôn am y llyfr ei hanes, a llawer mwy. Dwi ddim wedi darllen y llyfr eto, dim hyd yn oed ei brynu fo, ond wna i rŵan ar ôl iddo fo gael ei gymeradwyo gennyt ti.

Chris Cope said...

Dim ond newydd ddod o hyd i hyn heddiw. Diolch yn fawr, Neil.

Wn i ddim a fydd fersiwn Saesneg o'r llyfr. Dwi ddim wedi clywed y fath sôn gan Gomer, o leiaf. Er, a bod yn onest, dwi ddim yn gwybod sut y byddwn i'n teimlo am hynny. Yn y llyfr, mae ychydig o "feirniadaeth" o'r byd Cymraeg. Rydw i'n fodlon gwneud hynny yn y Gymraeg oherwydd mae'n "in house" fel petai. Mae yna wahaniaeth rhwng beirniadu'r byd Cymraeg yn y Gymraeg, a'i feirniadu yn y Saesneg. Byddwn i'n pryderu taw rhy gas byddai'r naws o fersiwn Saesneg.

Cer i Grafu said...

Wi'n cofio darllen y bardd R.S Thomas yn gweud rhywbeth tebyg i Chris ynglyn a beirniadu'r byd Cymraeg - cadw pethau'r ty yn y ty - fel petai.

Mae'r llyfr yn daith bersonol o fewn iaith a diwylliant arall ac ma hwnna'n brofiad y gall llawer o bobol uniaethu ag ef, boed y profiad yn Sbaen, Rwsia ne Gymru ac am y rhesymau hynny, wi'n credu bod cynulleidfa i'r llyfr yn y Saesneg, ac mae lle i addasu os nag oes eisiau gweud rhai pethau i'r byd a'r betws.