Ges i gopi ail-law yr wythnos yma o lyfr bach sy'n adrodd hanes y Dyfrdwy, sef 'History of the River Dee' gan awdur o Wrecsam Mike Griffiths. Dwi'n ceisio darganfod mwy am hanes 'Gwlad y Môr' ar hyn o bryd, hynny yw y darn o aber y Dyfrdwy a gafodd ei drawsnewid yn y deunawfed canrif.
Un beth diddorol wnes i ddarllen yn y llyfr oedd nad oedd y tir adenilledig i fod yn rhan o Gymru. O dan y cynllun gwreiddiol mi fasai'r sea-land - a greuwyd gan camlasu'r afon - wedi ei gynnwys yn Lloegr, gyda'r ffin yn symud i ddilyn cwrs newydd yr afon. Y rheswm am beidio â newid y ffin (yn ôl y llyfr) oedd oherwydd nifer o Gymry a gladdwyd o dan laid yr aber, wedi i'w llong suddo yna. Er mwyn parchu eu beddau mwdlyd a'u cadw ar dir Cymreig, fe arhosodd y ffin yn yr un fan. Yn ôl y son mae pant yn un o gaeau Sealand sy'n dynodi man gorffwys honedig y cyrff, ond mae'n stori dda beth bynnag.
4 comments:
Hi Neil, stori ddiddorol heddiw. Dw i ddim wedi clywed am y llyfr rhaid i mi ddweud, ond gaf i ofyn iti a oes 'na sôn am ddyn a foddodd yn afon Dyfrdwy rhywle ger Bangor is y coed yn ôl yn y 20au neu 30au (??). Mae 'na stori yn nheulu fy ngŵr am ei hen daid, neu efallai, ei hen hen daid a fu farw yn yr afon ar ôl iddo geisio achub dafad, ond yn ôl y sôn roedd o wedi meddwi ar y pryd.
Hi Ro, Nag oes, does 'na ddim son am yr hanes yna. Does dim llawer am Fangor is y Coed a dweud y gwir, ar wahan i hanes y 1200 (!?) o fynachod a gafodd eu lladd yna wrth trio ffoi'r mynachdy yna yn y flwyddyn 616. Mae 'na son am Holt hefyd, y ffatri teils a sefydlwyd yno gan y Rhufeiniaid, a'r bont cerrig cyntaf a gafodd ei hadeiladu gan Edward 1 er mwyn hwyluso taith ei fyddin i Gymru. Diddorol tu hwnt!
O be dwi'n dallt, yr oedd afon Dyfrdwy yn rhedeg ble mae Sealand a Saltney, gyda'r llanw yn dwad cyn belled a Chaer ei hun.
Yn ôl y llyfr 'Dictionary of the Place-Names of Wales' a dipyn o be dwi'n gwbad yn barod, nid oes cofnod ysgrifenedig o 'Sealand' tan 1726 ond mae cofnodion o Saltney mor bell yn ôl â 1230 fel 'Salteney', gyda chofnod Cymraeg o'r lle tua'r 14eg ganrif fel "Morva Kaer Lleon". Wrth gwrs, enw llawn a ffurfiol Caer yw "Caerlleon Fawr ar Ddyfrdwy".
Yn ôl y llyfr mae'n dweud fod Morfa Caer (Saltney) bosib yn ddarn o dir sych yng nghanol morfa, neu dir gwlyb.
Oherwydd siltio Dyfrdwy newidiodd yr afon ei llwybr gan arwain at "great pasture called Salteney", cyfeiriad o 1639, a llanw bellach ddim yn cyrraedd Caer. Effeithiodd y siltio cymaint gan arwain i Gaer golli ei statws fel porthladd prysur a chyfoethog.
Talodd Chester Corporation i gael Dyfrdwy wedi ei gamlesu, er mwyn gwneud hi'n haws i longau deithio'n agosach at Gaer, ac i geisio adfer hen gyfoethogau Caer.
Yn rhan o'r ddeddf a chamlesodd Dyfrdwy, nid oedd y gwaith yn amharu dim ar ffin Cymru a Lloegr fel a diffinwyd yn ôl y Deddfau Eiddo.
Wrth i Ddyfrdwy gael ei gamlesu o 1732-37, meddianwyd y tiroedd newydd sych, sef Sealand a Shotton. Lower Shotton wrth gwrs sef Cei Connah - yr enw yn dipyn o hitn ynghylch ei sefydlu!
Ond os edrychwch chi ar y dyddiad y camlesu a'r dyddiad y cofnodwyd defnydd cyntaf o Sealand, mae'r gred fod Dyfrdwy wedi siltio digon fel bod Sealand mewn bodolaeth cyn i Ddyfrdwy newid ei chwrs.
Yn agosach at heddiw, yr oedd Arolwg Ordnans sy'n gyfrifol am fapio tiroedd Prydain, isio tacluso eu mapiau gan geisio cael ffin Cymru a Lloegr i ddilyn camlas Dyfrdwy sydd yn neis ac yn syth. Yr oedd cyngor sir Clwyd yn barod i ildio'r tir ma i Loegr, sef popeth ochor arall i Ddyfrdwy sy'n cynnwys pwerdy nwy Cei Connah, stadau diwydiannol, Sealand etc. Un person a brwydrodd yn ffyrnig yn erbyn hyn oedd ffermwr o'r enw Huw Cottle a oedd yn byw yn yr ardal.
Felly diolch i Huw Cottle mae Seland dal yn rhan o Gymru.
Diolch Huw am yr ymateb diddorol tu hwnt. Tybed os mae 'na gysylltiad rhwng gweithred Huw Cottle i gadw'r tir yng Nghymru a'r hanes am feddau y morwyr?
Mae'r hanes yna yn dod o Bob Manifold, y dyn fferi olaf i rwyfo teithwyr dros y Fferi Uchaf ger Saltney. Roedd ei deulu wedi rhedeg y fferi ers 1740 tan godwyd y bont gerdded yn 1968!
hwyl, Neil
Post a Comment